X-ray (6) cropped

Sganwyr ac offer pelydr-X newydd i gyflymu’r broses o roi diagnosis i bobl ledled Cymru

New scanners and X-ray equipment to speed up diagnosis of people across Wales

Bydd cleifion ym mhob cwr o Gymru yn elwa ar gael diagnosis sy’n fwy cywir, a hynny yn gyflymach, wrth i naw ysbyty dderbyn offer sganio a phelydr-X newydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £12m i brynu offer yn lle’r systemau delweddu sydd wedi dyddio mewn ysbytai, gan gynnwys ysbytai Brenhinol Gwent, Bronglais a Maelor Wrecsam, gan helpu rhagor o gleifion i gael eu gweld a’u trin yn gyflymach.

Bydd sganwyr CT, pelydr-X a dwysedd esgyrn newydd yn cymryd lle offer nad oes modd dibynnu arnynt bellach ac sy’n dod yn fwyfwy anodd eu hatgyweirio. Bydd hyn yn golygu lleihau’r amser a fydd yn cael ei golli oherwydd bod offer wedi torri i lawr ac i wneud gwaith cynnal a chadw.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cael dros £2.7m i brynu sganiwr newydd yn lle’r sganiwr SPECT-CT presennol yn Ysbyty Brenhinol Gwent er mwyn lleihau’r amser sy’n cael ei golli i gynnal a chadw’r offer ac i wella gwydnwch clinigol.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn elwa ar bron i £2m i uwchraddio offer fflwrosgopeg – offer delweddu digidol sy’n darparu delweddau amser real o’r tu mewn i’r corff yn ystod diagnosis a thriniaeth – yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae gan y systemau newydd nodweddion gwell o ran ansawdd y delweddau, a pha mor ddibynadwy ydynt. Maen nhw’n cynnig gwasanaethau clinigol gwell ac yn sicrhau bod cleifion yn gallu manteisio ar brosesau delweddu a chael triniaethau sy’n creu clwyf mor fach â phosibl yn yr adran Radioleg.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cael sganiwr dwysedd esgyrn newydd yn lle’r un 20 oed yn Ysbyty Bronglais ar ôl buddsoddiad o dros £628,000, gan wella’r gyfradd brosesu yn sylweddol ar adeg o gynnydd yn y galw.

Bydd rhagor na £6.7m yn ariannu naw ystafell belydr-X digidol newydd ar draws Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Bae Abertawe – ystafelloedd y bydd ysbytai Bryn Beryl, Dolgellau, Maelor Wrecsam, Yr Wyddgrug, Llandochau, Ysbyty Plant Cymru, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot yn elwa arnynt.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Rydym yn disodli offer sydd wedi dyddio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf mewn ymgais i wella gwasanaethau diagnostig ym mhob cwr o Gymru drwy eu gwneud yn fwy gwydn, dibynadwy ac effeithlon.

“Bydd yr offer – sy’n cynnwys sganwyr CT, pelydr-X a delweddu eglur iawn o esgyrn, organau a meinweoedd meddal – yn helpu i gynyddu nifer y sganiau sy’n gallu cael eu cynnal, a bydd hyn yn gwella llif cleifion drwy’r system gofal iechyd.

“Bydd cael offer pelydr-X sy’n well o safbwynt ergonomig hefyd yn ei gwneud yn haws i staff eu defnyddio. Bydd y mwyafrif o’r offer yn gallu cael eu gosod yn eu lle drwy broses gwbl awtomatig, felly gallant fod yn fwy effeithlon ac o fudd i ofal cleifion.”

Nodiadau i olygyddion

Organisation

2026-27

£m

Aneurin Bevan

2.738

Betsi Cadwaladr

2.504

Cardiff & Vale

3.731

Hywel Dda

0.628

Swansea Bay

2.420

Total

12.021

 

Organisation

Site

2026-27

£m

Betsi Cadwaladr University Health Board

Bryn Beryl Hospital

0.371

 

Dolgellau Hospital

0.370

 

Wrexham Maelor Hospital x 2

1.201

 

Mold Hospital

0.562

Cardiff & Vale University Health Board

University Hospital Llandough

1.028

 

Children’s Hospital for Wales

0.779

Swansea Bay University Health Board

Singleton Hospital (Room 6)

1.224

 

Neath Port Talbot (Room 1)

1.196

Total Digital X Ray Systems

6.731m