Safonau newydd yn disgrifio’r hyn y mae gofal iechyd meddwl da yng Nghymru yn ei olygu
New standards set out what good mental healthcare looks like in Wales
Bydd pobl yng Nghymru yn elwa ar safonau cliriach ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a hunan-niweidio ar draws y GIG a’r sector gofal cymdeithasol.
Mae dau ddatganiad ansawdd newydd yn cael eu cyhoeddi heddiw. Maent yn diffinio’r canlyniadau a’r safonau y mae rhaid i wasanaethau eu cyflawni, o gymorth mynediad agored ar yr un diwrnod i ofal sy’n ystyriol o drawma ar gyfer pobl sydd wedi hunan-niweidio.
Maent yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r camau gweithredu yn y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol a’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio uchelgeisiol a byddant yn helpu Cymru i ddod y genedl gyntaf i ddarparu gofal iechyd meddwl mynediad agored ar yr un diwrnod.
Mae tua 20 o gynlluniau peilot ledled Cymru wedi’u rhoi ar waith i ddarparu cymorth mynediad agored, gan helpu pobl i gael cymorth mawr ei angen yn gynt heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg. Bydd y rhain yn darparu’r sylfaen ar gyfer ehangu’r cymorth yn ehangach i ragor o wasanaethau a sefydliadau.
Mae’r “safleoedd arddangos” yn cynnwys gwasanaeth cyswllt iechyd meddwl y prifysgolion, sy’n darparu ymyrraeth gynnar a chymorth hawdd cael gafael arno i fyfyrwyr unrhyw un o’r pedair prifysgol yng Nghaerdydd, sef Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama.
Ers ei lansio yng Nghymru yn 2022, mae mwy na 240,000 o bobl wedi cysylltu â’r gwasanaeth 111 pwyso 2 am gymorth ar gyfer problem iechyd meddwl o natur frys.
Mae’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Meddwl yn nodi naw elfen graidd i ailgynllunio gwasanaethau sy’n cwmpasu’r nod o ofal mynediad agored, gan symud i ffwrdd o fodelau haenog traddodiadol tuag at system sy’n fwy hyblyg ac yn canolbwyntio ar adfer.
Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni sy’n cael eu cynllunio gyda phobl sydd ag ystod amrywiol o safbwyntiau a phrofiadau, dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma a gaiff eu hintegreiddio’n glir ac yn gyson i bob lefel o ofal, gwasanaethau sy’n hyblyg, yn seiliedig ar ddata ac yn gydweithredol a gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae’r Datganiad Ansawdd Hunan-niweidio yn nodi chwe chonglfaen gofal o ansawdd uchel, sef triniaeth ar unwaith, cymorth sy’n ystyriol o drawma, parhad gofal, cynllunio diogelwch, cyfeirio holistaidd ac ymatebwyr medrus.
Mae’n pwysleisio bod rhaid i ofal tosturiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fod ar gael i bawb sy’n hunan-niweidio, ni waeth beth fo’u bwriad.
Maent wedi eu datblygu gyda GIG Cymru, partneriaid y trydydd sector a phobl sydd â phrofiad bywyd.
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Bydd y safonau hyn yn sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl cyson, tosturiol ac effeithiol ble bynnag y maen nhw yng Nghymru.
“Rydyn ni’n symud i ddyfodol newydd o wasanaethau mynediad agored yng Nghymru, fel y gall pobl gael yr help sydd ei angen arnyn nhw’n gynt a’u hatal rhag cyrraedd pwynt argyfwng. Bydd y safonau hyn yn ein helpu i wella gofal iechyd meddwl a chyflawni ein huchelgais.”
Nodiadau i olygyddion
- The Quality Statement for Mental Health and the Quality Statement for Self-Harm are available at
The Quality Statement for Mental Health | GOV.WALES
Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Meddwl | LLYW.CYMRU
- The Mental Health and Wellbeing Strategy and the Suicide Prevention and Self-harm Strategy were published last year.