Sarah Murphy-13

Y Senedd yn pasio rheoliadau newydd i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yng Nghymru

Senedd passes new regulations to tackle alcohol misuse in Wales

Yn dilyn pleidlais yn y Senedd, bydd polisi nodedig i helpu i leihau nifer y marwolaethau a'r niwed sy'n gysylltiedig â yfed gormod o alcohol yn cael ei estyn yng Nghymru.

Heddiw, mae Aelodau'r Senedd wedi pasio rheoliadau i barhau â'r polisi isafbris am alcohol ac i godi'r isafbris uned o 50c i 65c, gan ei wneud yn gyson â’r gyfradd yn yr Alban.

Mae'r isafbris am alcohol wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol – gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau – drwy leihau'r defnydd o alcohol ymhlith yfwyr peryglus a niweidiol.

Mae ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi canfod y gallai cynyddu'r isafbris uned i 65c atal mwy na 900 o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol dros 20 mlynedd a lleihau nifer yr yfwyr niweidiol bron i 5,000.

Yn dilyn y bleidlais yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: “Mae alcohol rhad, cryfder uchel yn effeithio'n anghymesur ar yfwyr peryglus a niweidiol. Mae'r dystiolaeth yn glir – mae'r isafbris uned yn gweithio.

"Rydym heddiw wedi gwneud penderfyniad a fydd yn achub bywydau ac yn helpu i amddiffyn llawer o bobl rhag y niwed a achosir gan yfed gormod o alcohol."

Croesawodd Cyfarwyddwr Cymru Alcohol Change UK, Andrew Misell, barhad y polisi, gan ddweud: "Mae chwyddiant wedi erydu'n raddol effaith yr isafbris uned ers iddo gael ei gyflwyno yn 2020. Mae'r cynnydd hwn yn adfer effeithiolrwydd y polisi ac yn sicrhau y gall barhau i wneud hi'n anoddach cael gafael ar yr alcohol rhataf a chryfaf sy'n achosi'r niwed mwyaf."

Cafodd yr isafbris uned ei gyflwyno yng Nghymru yn wreiddiol ym mis Mawrth 2020 pan ddaeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i rym. Roedd y Ddeddf yn cynnwys cymal machlud, a oedd yn golygu y byddai'r isafbris uned wedi dod i ben ar 1 Mawrth 2026, pe na bai'r Senedd wedi pleidleisio i estyn y polisi.

Bydd y rheoliadau newid prisiau yn dod i rym ar 1 Hydref 2026.

Nodiadau i olygyddion

  • The modelling data provided by SARG suggests raising the MUP to 65p per unit – this is the level the Scottish MUP is currently set at – could reduce the number of hazardous drinkers by 6,363 and harmful drinkers by 4,906, while potentially increasing the number of moderate drinkers by 11,270. In comparison, allowing the sunset clause to take effect is estimated to lead to an immediate increase in the number of hazardous (+461) and harmful (+959) drinkers, with a corresponding reduction in the number of moderate drinkers of (-1420).

 

  • In relation to reducing alcohol related mortality it would lead to an estimated 902 fewer alcohol-caused deaths, including 628 fewer alcohol-specific deaths, over a 20-year period. In the first year alone, there would be 22 fewer alcohol-related deaths.

 

  • The current 50p per unit rate threshold has become relatively ineffective at increasing the prices of the cheapest alcohol products. As was noted in the independent evaluations, the period of persistently high inflation high inflation post-pandemic in particular has contributed to the erosion of the value of the MUP in real terms. Using the CPIH index, the effect of inflation between 2020 and 2026 is equivalent to the 50p MUP falling to 39p in 2020 prices.