Triniaeth gynharach i bobl yr effeithir arnynt gan getamin
Earlier treatment for people affected by ketamine
Mae rhaglen newydd yn cael ei datblygu sy'n helpu pobl i gael cymorth cynharach ar gyfer problemau iechyd sy'n gysylltiedig â chetamin.
Ymwelodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, â swyddfa Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a'r Fro (CAVDAS) yn y Barri i weld sut mae gwasanaethau iechyd lleol yn arwain y ffordd o ran ymyrraeth gynnar ac atal.
Mae'r defnydd o getamin wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda gwasanaethau Caerdydd a'r Fro wedi gweld cynnydd o 53% yn y rhai sy'n cyflwyno gyda phroblemau cysylltiedig â chetamin ers mis Medi 2024.
Mae Uned Ddibyniaeth Gymunedol Caerdydd a'r Fro hefyd wedi cael cyswllt â 73 o unigolion sy'n defnyddio cetamin fwy nag unwaith yr wythnos yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – cynnydd o 60% o'i gymharu â'r cyfnod cyn 2024.
Mae'r llwybr newydd, a ddatblygwyd gan weithgor aml-asiantaeth ers mis Chwefror 2025, eisoes yn gwneud gwahaniaeth.
Gall y cyffur achosi difrod difrifol ac anadferadwy i'r bledren a'r arennau, ond mae dulliau sgrinio bellach yn gallu adnabod problemau'r bledren yn gynnar ac mae staff wedi'u paratoi'n well i gefnogi pobl ag anghenion cymhleth.
Mae rhaglen newydd ar gyfer ysgolion a ddatblygwyd gan CAVDAS, ar y cyd â phobl sydd â phrofiad byw, hefyd yn cyrraedd disgyblion blynyddoedd 9 a 10 gan roi gwybodaeth hanfodol iddynt am risgiau a lleihau niwed. Mae'r llwybr yn parhau i ddatblygu, gyda chynlluniau i gryfhau cysylltiadau ag arbenigwyr wroleg a chreu cefnogaeth bwrpasol i rai o dan 18 oed drwy wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS).
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid gan y Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau (SMAF) i gefnogi gwasanaethau triniaeth yng Nghaerdydd a'r Fro. Ar draws darpariaeth gymunedol, cleifion mewnol a phreswyl, mae gwerth oddeutu £3.2m o wasanaethau a ariennir gan SMAF yn cyfrannu at ddarparu'r llwybr gofal cetamin, ochr yn ochr â diwallu anghenion camddefnyddio sylweddau ehangach.
Mae'r Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau hefyd yn cefnogi gwasanaethau CAVDAS ar gyfer sgrinio, ymyriadau lleihau niwed – gan gynnwys bagiau cydio penodol ar gyfer cetamin – ac ymgysylltu cynnar.
Mae Byrddau Cynllunio Ardal – sy'n cynnwys cynghorau, byrddau iechyd a'r heddlu – a sefydliadau camddefnyddio sylweddau trydydd sector ar draws Cymru yn cyflwyno mentrau tebyg i drin a chodi ymwybyddiaeth am beryglon defnyddio cetamin.
- Yng Nghwm Taf Morgannwg mae grŵp wedi'i sefydlu i greu deunyddiau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o getamin, hyfforddi staff ac adolygu'r llwybrau cyfredol.
- Yng Ngwent, mae Barod wedi cydlynu cynhadledd a'r unig bwnc ar yr agenda yw Cetamin.
- Yn y Gogledd, mae gwasanaethau plant a phobl ifanc wedi bod yn cynnig sesiynau ymwybyddiaeth cetamin cyffredinol i bob ysgol uwchradd ar draws y Gogledd. Mae Adferiad hefyd wedi cynhyrchu hyfforddiant byr ar gyfer adrannau brys, ac yn cynnig hyfforddiant hanner diwrnod am ddim i weithwyr proffesiynol ar draws y Gogledd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:
“Rydym yn gweld effeithiau dinistriol y defnydd parhaus o getamin ac mae angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol o beryglon defnyddio'r cyffur hwn.
“Rwy'n falch o weld yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan Gaerdydd a'r Fro i ddarparu profion sgrinio cynnar, codi ymwybyddiaeth plant ysgol a rhoi triniaeth pan fo'i angen fel rhan o'u llwybr gofal cetamin.
“Rydym yn gweithio gyda Byrddau Cynllunio Ardal ledled Cymru i sicrhau bod arferion gorau’n cael eu rhannu a bod ein hagenda camddefnyddio sylweddau yn cefnogi'r rhai sydd fwyaf mewn angen.”
Ychwanegodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chadeirydd y Bwrdd Cynllunio Ardal:
“Roeddem yn falch iawn i groesawu'r Gweinidog a thynnu sylw at y gwaith gwerthfawr sy'n digwydd ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg i gefnogi pobl lleol.
"Byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith amlasiantaeth hwn ar getamin trwy weithio mewn partneriaeth i nodi anghenion yn gynt, atal niwed, a gwella gwasanaethau cymorth."Roedd yr ymweliad yn gyfle pwysig i ddangos ein ymrwymiad i ddatblygu a chryfhau dulliau ataliol a thriniaeth ar gyfer pob person sydd yn cael eu effeithio gan ddefnyddio sylweddau yn ein cymunedau."
Nodiadau i olygyddion
Pic caption:
Minister for Mental Health and Wellbeing Sarah Murphy outside the CAVDAS offices in Barry
- The visit took place at CAVDAS Vale Office, Barry.
- In the year to March 2024, hundreds of thousands of adults across England and Wales reported ketamine use. Fatalities involving ketamine, though relatively rare, have increased more than tenfold over the past decade.
- The UK Government commissioned an updated harms assessment in early 2025 and is considering whether ketamine should be reclassified as a Class A substance
- DAN 24/7 our free bilingual helpline, funded by Welsh Government, also have useful information available on the website regarding the risks associated with using ketamine, ketamine fact sheets and booklets available to order.
- Area Planning Boards (APBs) are multi‑agency partnerships that bring together local authorities, health boards, criminal justice partners, the third sector, and people with lived experience to plan and oversee substance misuse services.