English icon English
First Minister Eluned Morgan MS (Landscape) cropped cropped

Canolfan ymchwil newydd i helpu i fynd i’r afael â’r bwlch iechyd hanesyddol rhwng y rhywiau

New research centre to help tackle historic gender health gap

Yn sgil y Ganolfan Ymchwil Iechyd Menywod gyntaf i Gymru, bydd menywod yn elwa ar arloesi ac ymchwil arloesol wedi’u cynllunio i ddileu anghydraddoldebau iechyd.

I nodi blwyddyn ers cyhoeddi’r cynllun nodedig, Cynllun Iechyd Menywod Cymru, cafodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy gyfle i gyfarfod â staff, ymchwilwyr a’r cymunedau sy’n cydweithio â nhw yn y ganolfan gwerth £3m.

Mae’r ganolfan ymchwil, o dan arweiniad Ymchwil Iechyd Menywod Cymru, wedi’i chynllunio i gryfhau buddsoddi mewn ymchwil iechyd menywod, gan gynnwys cynrychiolaeth mewn treialon clinigol.

Mae’r ganolfan yn dwyn ynghyd ymchwilwyr, partneriaid y GIG, y diwydiant, llunwyr polisi a chymunedau i ddatblygu triniaethau mwy effeithiol a sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn diwallu anghenion menywod drwy gydol eu bywydau.

Mae’r gwaith yn ymdrin ag atal, cyflyrau sy’n dechrau’n gynnar, clefydau prin a gofal i gymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Mae’r prosiectau sy’n cael eu datblygu yn cynnwys archwilio adnoddau adrodd am symptomau i helpu i reoli cyflyrau fel diabetes, methiant y galon a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae’r rhain i gyd yn gyflyrau lle nad oes ymchwil digonol sy'n canolbwyntio ar eu heffeithiau penodol ar fenywod wedi’i chynnal hyd yma. 

Mae’r tîm hefyd yn ymchwilio i sut y gallai cemegion mewn cynhyrchion mislif effeithio ar iechyd, y ffordd orau o sicrhau bod pobl ifanc yn aros yn egnïol yn ystod y mislif, a’r llwybrau gorau i sicrhau nad yw pobl â syndrom ofarïau polysystig yn datblygu cyflyrau iechyd fel diabetes a chlefyd y galon yn ddiweddarach mewn bywyd. 

Mae prosiectau ymchwil eraill yn archwilio materion o ran ffrwythlondeb, gan gynnwys adnodd gwneud penderfyniadau i fenywod â chlefyd yr arennau sy’n ystyried p’un ai i gael plant neu beidio.

Mae un prosiect yn gweithio’n uniongyrchol gyda menywod sy’n cael triniaeth ffrwythlondeb, gan ymchwilio i pam mae triniaeth o’r fath yn gallu arwain at broblemau iechyd meddwl fel anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD). Y nod yw creu canllawiau i ategu gofal ffrwythlondeb sy’n ystyriol o drawma.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

“Rwy’n angerddol am wella gofal iechyd i fenywod. I wella pethau, mae rhaid inni fuddsoddi mewn ymchwil i gael y dystiolaeth sydd ei hangen arnon ni.

“Rwy’n falch iawn o weld sut mae buddsoddiad gwerth £3m gan Lywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn hybu ymchwil sy’n seiliedig ar brofiadau menywod, gan arwain yn y pen draw at well gofal a gwell canlyniadau iechyd i fenywod.

“Mae’r ganolfan ymchwil arloesol newydd hon yn rhan allweddol o’r Cynllun Iechyd Menywod a bydd yn ein helpu ni i ddeall profiadau menywod yn well. Bydd yn arwain at driniaethau mwy effeithiol ac yn sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn cyflawni canlyniadau gwell i fenywod yng Nghymru.”

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

“Rwy’n falch iawn bod y buddsoddiad ry’n ni wedi’i wneud yn y ganolfan ymchwil hon yn arwain at brosiectau mewn meysydd pwysig iawn o ran iechyd menywod, meysydd nad oes llawer o ymchwil wedi’i chynnal yn eu cylch hyd yma.

“Y gwaith arloesol rwyf i wedi clywed amdano heddiw mewn meysydd fel effaith anffrwythlondeb ar iechyd meddwl menywod yw’r union waith ry’n ni am i’r Cynllun Iechyd Menywod ddylanwadu arno a’i gyflawni.

“Mae hyn i gyd wedi’i gyflawni yn y 12 mis cyntaf, rwy’n edrych ymlaen at weld beth allwn ni ei wneud yn ystod y flwyddyn nesaf.”

Dywedodd Debbie Shaffer, sylfaenydd a chyfarwyddwr Triniaeth Deg i Fenywod Cymru a chadeirydd Clymblaid Iechyd Menywod Cymru:

“Mae ymchwil i faterion iechyd sy’n wynebu menywod ar hyd eu bywydau yn hanfodol. Drwy weithio gyda'n gilydd, mewn partneriaeth â menywod a chymunedau, mae gennym gyfle gwych i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella cymorth ac opsiynau o ran triniaethau.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at helpu i hwyluso mwy o gyfleoedd i’r rhai sydd â phrofiad bywyd, nad yw eu lleisiau efallai wedi’u clywed o’r blaen, i gymryd rhan.”

Cyhoeddwyd Cynllun Iechyd Menywod Cymru ym mis Rhagfyr 2024. Mae’n nodi dull 10 mlynedd o hyd i wella canlyniadau iechyd menywod yng Nghymru ac i sicrhau bod pob menyw yn cael ei thrin yn gyfartal, y gwrandewir arni a bod ei hanghenion iechyd yn cael eu deall.