Ymestyn hyfforddiant iechyd meddwl i glybiau rygbi yng Nghymru
Mental health training extended to rugby clubs in Wales
Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn cael ei gyflwyno i glybiau rygbi ar draws Cymru wrth i bryderon gynyddu am y nifer cynyddol o ddynion sy'n brwydro mewn tawelwch.
Mae'r cwrs yn helpu timau, hyfforddwyr a chwaraewyr i adnabod yr arwyddion pan fo pobl yn profi anawsterau iechyd meddwl, a chynnig cefnogaeth iddynt.
Mae'r cyfraddau hunanladdiad uchaf yng Nghymru ymhlith dynion rhwng 35 a 55 oed. Rhagwelir y bydd yn fuddiol cynnig gofod iddynt sy'n canolbwyntio ar lesiant meddyliol a chorfforol cadarnhaol.
Mae mwy na £2 filiwn hefyd yn cael ei fuddsoddi yn y Canolfan Genedlaethol ar gyfer ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae mwy na 400 o glybiau pêl-droed ar draws Cymru eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan yn y cwrs ar-lein, sy'n cael ei gynnal gan UK Coaching a'r elusen iechyd meddwl Mind.
Mae'r fenter yn rhan o ymdrechion ehangach i sicrhau bod clybiau chwaraeon yn gallu darparu mannau cefnogol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys.
Yn siarad mewn uwchgynhadledd ar atal hunanladdiad ymhlith dynion yn Rodney Parade yng Nghasnewydd, anogodd y Gweinidog Iechyd Meddwl Sarah Murphy glybiau rygbi i gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant.
Dywedodd: “Mae'n hanfodol bod gan ddynion fynediad at gymorth cyn cyrraedd pwynt argyfwng.
“Gall chwaraeon chwarae rhan werthfawr o ran cyrraedd dynion sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. Rydyn ni eisiau i fwy o glybiau chwaraeon ddysgu sut i gefnogi eu chwaraewyr, eu timau a'u staff ar gam cynnar.”
Roedd sefydliadau gan gynnwys y Dreigiau, Chwaraeon Cymru, y Samariaid, Mind, Lads and Dads a 2Wish yn bresennol yn yr uwchgynhadledd ar atal hunanladdiad ymhlith dynion heddiw, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae ehangu hyfforddiant iechyd meddwl i glybiau chwaraeon yn cyd-fynd â'r uchelgeisiau yn Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Cymru, a lansiwyd y llynedd ac sydd wedi'i chynllunio i wella mynediad at gymorth ac i leihau stigma.
Mae cynnydd wedi'i wneud o ran gwella mynediad at wasanaethau cymorth heb yr angen am atgyfeiriad, gyda mwy na 230,000 o bobl yn cysylltu â gwasanaeth iechyd meddwl 111 dewis 2 ers ei lansio yng Nghymru yn 2022.
Dywedodd Rhys Blumberg, Prif Swyddog Gweithredol Clwb Rygbi'r Dreigiau: “Roeddem yn falch iawn o gynnal yr uwchgynhadledd ar atal hunanladdiad ymhlith dynion yn Rodney Parade gan ein bod ni o ddifrif ynghylch iechyd meddwl ein chwaraewyr, ein hyfforddwyr a'n staff.
“Fel clwb rygbi proffesiynol sy'n cynrychioli ardal enfawr yng Nghymru, rydym bob amser yn awyddus i ehangu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i gynnig cyngor ac arweiniad ar iechyd meddwl.
“Rydym yn croesawu'r newyddion bod hyfforddiant ymwybyddiaeth yn cael ei gyflwyno i glybiau rygbi ar draws Cymru i roi'r sgiliau i bobl roi cefnogogaeth yn y ffordd fwyaf priodol ac rydym yn ymuno â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill gan annog pob clwb i fanteisio ar yr adnodd newydd hanfodol hwn.”
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Chwaraeon: “Mae clybiau chwaraeon yn llawer mwy na lleoedd i chwarae – maen nhw'n lleoedd lle mae cyfeillgarwch yn cael eu ffurfio, lle mae pobl yn cael ymdeimlad o berthyn, a lle gallwn gadw llygad ar ein gilydd.
“Gyda mwy na 400 o glybiau pêl-droed eisoes wedi cofrestru, rwy'n gwybod y bydd ein clybiau rygbi hefyd yn croesawu'r cyfle hwn gyda'r un brwdfrydedd, ac rwy'n eu hannog i gymryd rhan."
Nodiadau i olygyddion
- More information on the training is available on the UK Coaching website
- Anyone needing support with mental health can ring the 24-hour CALL Helpline: 0800 132 737
- For urgent support please call the NHS on 111 and press 2
- For mental health information and support in Welsh and English, visit Information and support
- The anonymous Samaritans helpline is available 24/7 on 116 123 and their Welsh helpline is available everyday 7pm-11pm on 0808 164 0123
- For anyone who is bereaved by suicide, the National Advisory and Liaison Service Cymru offer free and confidential support to people in Wales: 08000 487742