Dull newydd ar gyfer helpu teuluoedd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon
New approach supporting families in Wales and Northern Ireland
Roedd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden yn Belfast yr wythnos hon i ddysgu rhagor am ddull arloesol llwyddiannus sy'n helpu i leihau nifer y plant sy'n mynd i mewn i ofal, dull sydd bellach yn cael ei dreialu yng Nghymru.
Mae prosiect y Rhwydwaith Maethu, Camu i’r Adwy cyn Camu yn Ôl, yn golygu bod gofalwyr maeth arbenigol ac sydd wedi’u hyfforddi’n dda o ran cymorth i deuluoedd yn gweithio gyda'r teulu cyfan er mwyn eu helpu, gyda chymorth, i sefydlogi'u hamgylchiadau, cynnig seibiannau byr i blant a rhoi amser i rieni fynd i'r afael â'u heriau.
Yng Ngogledd Iwerddon, gwnaeth y prosiect helpu 183 o blant rhwng 2016 a 2023, gan arwain at 95% ohonynt yn aros gyda'u rhieni yn hytrach na mynd i mewn i ofal. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd 109 o rieni a gofalwyr gymorth hefyd.
Dros gyfnod o dair blynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid gwerth £879,000 i'r Rhwydwaith Maethu er mwyn treialu'r rhaglen Camu i’r Adwy cyn Camu yn Ôl yng Nghymru, a hynny yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Benfro a Phowys.
Mae'r rhaglen yn helpu'r rhai sydd ar gyrion gofal a bydd yn helpu i wella canlyniadau i blant a theuluoedd. Mae cynnwys teuluoedd yn y gwaith o gydgynhyrchu'r mathau o gymorth a gweithgarwch i ddiwallu eu hanghenion orau yn allweddol i'w llwyddiant.
Bydd gwerthuso'r rhaglen yn parhau drwy gydol y cynllun treialu a disgwylir cyhoeddi'r adroddiad terfynol ym mis Mawrth 2026.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
"Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth i drawsnewid yn sylweddol brofiadau plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.
"Hanfod y gwaith hwn yw gweld llai o blant a phobl ifanc sydd angen mynd i mewn i ofal. I’r plant hynny sydd angen mynd i mewn i ofal, rydyn ni am i’w cyfnod mewn gofal fod mor fyr â phosibl a'n bod yn gallu diwallu eu hanghenion mor agos â phosibl at eu cartrefi fel y gallan nhw barhau i fod yn rhan o’u cymunedau.
"Mae wedi bod yn wych cael dysgu am lwyddiant y prosiect Camu i’r Adwy cyn Camu yn Ôl yng Ngogledd Iwerddon o ran cadw teuluoedd gyda'i gilydd, ac i glywed yn uniongyrchol gan y teuluoedd hynny sydd wedi elwa ar y prosiect.
"Mae'r cynllun treialu yng Nghymru yn mynd rhagddo'n dda ac rwy'n edrych ymlaen at glywed rhagor am ba mor effeithiol yw'r dull newydd hwn ar gyfer teuluoedd sydd ar gyrion gofal."
Dywedodd Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon, Mike Nesbitt:
"Rwy'n falch o gael dweud bod y rhaglen Camu i’r Adwy cyn Camu yn Ôl wedi'i datblygu yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n defnyddio sgiliau ac arbenigedd unigryw gofalwyr maeth i helpu plant a theuluoedd sydd ar gyrion gofal i aros gyda'i gilydd a meithrin perthnasoedd teuluol sefydlog.
"Drwy helpu plant i ddal i fyw gyda'u teuluoedd gyda chymorth gofalwr maeth, mae darparu cymorth mentora a seibiannau byr yn ddull sydd wedi arwain at lawer o blant yn aros gartref yn ddiogel yma. Hanfod y gwasanaeth yw canolbwyntio ar hybu perthnasoedd ystyrlon a chyson, deall ymlyniad a thrawma, a sicrhau bod y plentyn yn ganolog i'r gwasanaeth. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Bowden am ei diddordeb, ac rwy'n gobeithio y bydd ein cydweithwyr yng Nghymru yn gallu elwa ar y dysgu i lywio eu penderfyniadau polisi."