Newyddion
Canfuwyd 116 eitem, yn dangos tudalen 1 o 10
Y gwaith ar Bont y Borth yn mynd yn ei flaen
Mae ail gam y gwaith ar Bont y Borth yn mynd yn ei flaen a bydd cam arall o’r gwaith yn dechrau wythnos nesaf.
Rhewi prisiau tocynnau tren TrC ar gyfer y flwyddyn nesaf
Bydd y gost o deithio ar drenau TrC yn cael ei rewi ar gyfer y flwyddyn nesaf, o’r 1 Fawrth.
Gorsaf newydd Glannau Dyfrdwy i ddod â hwb trawsffiniol
Bydd gorsaf newydd Parcffordd Glannau Dyfrdwy yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng Gogledd Ddwyrain Cymru, ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, a Lerpwl, gan wella mynediad i un o'r safleoedd cyflogaeth mwyaf yn Ewrop a helpu i leihau tagfeydd ar brif ffyrdd yr ardal.
Pobl leol a thwristiaid yn rhoi hwb i deithiau trên ar lein y Cambrian
Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr ar lein y Cambrian yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda mwy o bobl leol a thwristiaid fel ei gilydd yn defnyddio'r gwasanaeth ers y gwelliannau a wnaed iddo.
Anturwyr awyr agored yn rhoi hwb i'r bysiau
Mae nifer y bobl sy'n teithio ar fysiau yn rhai o ardaloedd harddaf Cymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf, wedi cynyddu.
Diweddariad ar Bont Menai
Fel bod modd sicrhau datrysiad parhaol i'r trawstiau croes ar Bont Menai bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu rhoi ar waith gyda system llif llanw ar gyfer y rhan hon o'r gwaith yn unig.
Bydd Tram-drenau newydd yn chwyldroi trafnidiaeth yn Ne Cymru
Mae tram-drenau newydd a fydd yn chwyldroi trafnidiaeth yn Ne Cymru bellach yn eu cam olaf o brofion cyn cael eu cyflwyno i wasanaeth ar rai o Linellau Craidd y Cymoedd y gwanwyn hwn.
Bil Gwasanaethau Bysiau Cymru (Cymru) yn dod yn gyfraith
Mae deddfwriaeth flaengar i ddiwygio'r ffordd mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu yng Nghymru heddiw wedi cael y Cydsyniad Brenhinol, sy'n ei gwneud yn gyfraith.
Mwy na 56,000 o dyllau wedi'u trwsio a'u hatal yn ne-orllewin Cymru
Mae mwy na 56,000 o dyllau ar dros 100 milltir o ffordd wedi cael eu trwsio neu eu hatal yn ne-orllewin Cymru ers mis Ebrill y llynedd – ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a ffyrdd lleol.
Mwy na 50,000 o dyllau wedi'u trwsio a'u hatal yng nghanolbarth Cymru
Mae mwy na 52,000 o dyllau ar bron i 80 milltir o ffordd wedi cael eu trwsio neu eu hatal yng nghanolbarth Cymru ers mis Ebrill y llynedd – ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a ffyrdd lleol.
Mwy na 50,000 o dyllau wedi'u trwsio a'u hatal yn ne-ddwyrain Cymru
Mae mwy na 50,000 o dyllau ar dros 100 milltir o ffordd wedi cael eu trwsio neu eu hatal yn ne-ddwyrain Cymru ers mis Ebrill y llynedd – ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a ffyrdd lleol.
Mwy na 40,000 o dyllau wedi'u trwsio a'u hatal yng ngogledd Cymru
Mae mwy na 40,000 o dyllau ar bron i 80 milltir o ffordd wedi cael eu trwsio neu eu hatal yng ngogledd Cymru ers mis Ebrill y llynedd – ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a ffyrdd lleol.