English icon English

Mwy na 40,000 o dyllau wedi'u trwsio a'u hatal yng ngogledd Cymru

More than 40,000 potholes fixed and prevented across north Wales

Mae mwy na 40,000 o dyllau ar bron i 80 milltir o ffordd wedi cael eu trwsio neu eu hatal yng ngogledd Cymru ers mis Ebrill y llynedd – ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a ffyrdd lleol. 

Mae menter benthyca Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol wedi galluogi cynghorau lleol i drwsio neu atal tua 171,000 o dyllau ar gyfanswm 324 milltir o ffyrdd lleol ledled Cymru.

Ac ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol mae tua 30,000 o dyllau wedi cael eu trwsio neu eu hatal ar fwy na 65 milltir o ffordd yn yr un cyfnod, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.

Hyd yma mae 1,011 o gynlluniau ailwynebu lleol a 24 o gynlluniau ailwynebu cefnffyrdd wedi cael eu cwblhau ledled y wlad, a bydd mwy yn cael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae'r gwaith a gafodd ei gwblhau ar Ffordd Llanfair yn Abergele a Rackery Lane yn Llai, y tu allan i Wrecsam, eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl leol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon.

"Rwy'n falch iawn o'r cynnydd gwych rydyn ni wedi'i wneud ers mis Ebrill ac mae llawer mwy yn yr arfaeth."

"Rydyn ni wedi cynyddu'n sylweddol ein buddsoddi mewn cynnal a chadw ffyrdd a gwaith ataliol y flwyddyn ariannol hon i gyflawni gwelliannau ar hyd y rhwydweithiau ffyrdd strategol a lleol.

"Yn ogystal ag estyn oes ffyrdd a seilwaith critigol Cymru, mae'r gwaith hwn hefyd yn helpu i gadw cymunedau mewn cysylltiad mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy – a fydd yn ei dro yn helpu'r economi."