English icon English

Mwy na 50,000 o dyllau wedi'u trwsio a'u hatal yn ne-ddwyrain Cymru

More than 50,000 potholes fixed and prevented across south-east Wales

Mae mwy na 50,000 o dyllau ar dros 100 milltir o ffordd wedi cael eu trwsio neu eu hatal yn ne-ddwyrain Cymru ers mis Ebrill y llynedd – ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a ffyrdd lleol.

 Mae menter benthyca Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol wedi galluogi cynghorau lleol i drwsio neu atal tua 171,000 o dyllau ar gyfanswm 324 milltir o ffyrdd lleol ledled Cymru.

Ac ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) mae tua 30,000 o dyllau wedi cael eu trwsio neu eu hatal ar fwy na 65 milltir o ffordd yn yr un cyfnod, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.

Hyd yma mae 1,011 o gynlluniau ailwynebu lleol a 24 o gynlluniau ailwynebu cefnffyrdd wedi cael eu cwblhau ledled y wlad, a bydd mwy yn cael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Mae cynlluniau fel yr un ar y A48 Redhill i Stormy Down ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gwaith cyn y Nadolig ar yr M4 J24 i 26 Coldra i Malpas eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl leol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon.

"Rwy'n falch iawn o'r cynnydd gwych rydyn ni wedi'i wneud ers mis Ebrill ac mae llawer mwy yn yr arfaeth."

"Rydyn ni wedi cynyddu'n sylweddol ein buddsoddi mewn cynnal a chadw ffyrdd a gwaith ataliol y flwyddyn ariannol hon i gyflawni gwelliannau ar hyd y rhwydweithiau ffyrdd strategol a lleol.

"Yn ogystal ag estyn oes ffyrdd a seilwaith critigol Cymru, mae'r gwaith hwn hefyd yn helpu i gadw cymunedau mewn cysylltiad mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy – a fydd yn ei dro yn helpu'r economi."

DIWEDD