Newyddion
Canfuwyd 4056 eitem, yn dangos tudalen 11 o 338
Y Tafod Glas: Ceidwaid da byw yng Nghymru yn cael eu hannog i weithredu
- Mae Llywodraeth Cymru yn annog ffermwyr a cheidwaid da byw ledled Cymru i wirio am arwyddion o Tafod Glas (BTV-3), wrth i achosion barhau i gynyddu yng Nghymru a Lloegr.
- Gall da byw symud yn rhydd rhwng Cymru a Lloegr ers i'r Parth Cyfyngedig Cymru gyfan ddechrau ym mis Tachwedd 2025, felly dylai ceidwaid wirio statws y Tafod Glas anifeiliaid cyn eu prynu neu eu symud.
- Dylai ceidwaid gymryd tri cham: gwirio statws y Tafod Glas anifeiliaid newydd, siarad â'u milfeddyg am frechu, a rhoi gwybod am achosion a amheuir yn brydlon i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn hybu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn arwain rhaglen Dysgu Cymraeg genedlaethol sy’n helpu staff iechyd a gofal i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
- Gall derbyn gofal yn Gymraeg helpu pobl i deimlo'n fwy cyfforddus, cael eu deall ac i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu gofal.
- Mae cefnogaeth i fyfyrwyr a hyfforddeion yn helpu i dyfu gweithlu iechyd a gofal dwyieithog y dyfodol.
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian
Mae Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i'r digwyddiadau ynn Ngwaelod-y-garth.
Cymru'n symud yn nes at gynnig gofal i bob plentyn: pob awdurdod lleol ar y trywydd iawn i gwblhau cam cyntaf yr ehangu
- Pob awdurdod lleol yng Nghymru ar y trywydd iawn i gynnig gofal a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed erbyn diwedd mis Mawrth 2027.
- Carreg filltir enfawr wedi'i chyrraedd ar y daith tuag at gynnig gofal i bob plentyn.
- Mwy o deuluoedd i elwa wrth i'r gwaith o ehangu gofal plant gyflymu ledled y wlad.
Adolygiad o'r rheolau treth ar gyfer llety gwyliau i gefnogi twristiaeth a chymunedau lleol
- Adolygiad o'r trothwy gosod o 182 diwrnod i roi llais i fusnesau, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ynghylch cyfeiriad y polisi yn y dyfodol.
- Ceisir barn hefyd ar bum esemptiad newydd arfaethedig ar gyfer eiddo na ellid yn rhesymol eu defnyddio fel cartrefi parhaol.
- Dywedodd y Gweinidog Cyllid: "Dw i wedi ymrwymo i gael y cydbwysedd cywir – cadw cartrefi yn ein cymunedau a rhoi i dwristiaeth y cymorth angenrheidiol i ffynnu."
Dros £3 miliwn i gymunedau Cymraeg
- £2.7m ar gyfer canolfannau'r Urdd ym Mhentre Ifan, Llangrannog a Glan-llyn
- £400,000 i helpu cymunedau i sefydlu mentrau cymdeithasol a phrosiectau tai dan arweiniad y gymuned
- Nod y buddsoddiad yw cryfhau cyfleusterau cymunedol a chefnogi defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg
Cymorth Llywodraeth Cymru yn galluogi busnes trydanol i ehangu a chreu 30 o swyddi
- Busnes o Sir Gaerfyrddin i ehangu gyda chyllid Llywodraeth Cymru, gan greu 30 o swyddi dros bum mlynedd.
- Mae'r prosiect yn rhan o gynlluniau ehangu uchelgeisiol sy’n cynnwys adeiladu pencadlys newydd.
- Mae safle cyflogaeth Cross Hands, lle bydd y busnes yn cael ei ehangu, wedi’i ddatblygu drwy fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Cannoedd o aelwydydd i elwa o ymestyn tri chynllun allweddol i wneud tai yn fwy fforddiadw
- Mae Llywodraeth Cymru yn ymestyn tri chynllun sy'n helpu gyda chostau prynu neu adnewyddu cartrefi tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2026/27
- Cynigiwyd cymorth i hyd at 400 o aelwydydd drwy Cymorth i Brynu – Cymru, tra bydd cynllun Cymorth i Aros Cymru yn parhau i ddarparu cymorth i berchnogion tai sy'n cael trafferth cadw i fyny â thaliadau morgais
- Cefnogaeth i hyd at 300 eiddo gwag ac wedi eu hesgeuluso gael eu hadnewyddu a'u defnyddio eto fel cartrefi teuluol diogel ac ynni-effeithlon drwy'r Grant Cartrefi Gwag
Cymru i groesawu beicwyr gyda chronfa Tour de France gwerth £4.5m
- Buddsoddiad o £4.5m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith twristiaeth feicio - i greu gwaddol parhaol yn sgil dyfodiad y Tour de France i Gymru yn 2027
- Bydd y cyllid yn creu rhwydwaith cenedlaethol o ganolfannau, llwybrau a chyfleusterau beicio er lles cymunedau ac ymwelwyr
Prif Weinidogion Cymru a'r Alban yn addo cydweithio agosach
Cynhaliodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei gyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf gyda Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney, heddiw, gan addo cydweithredu agosach rhwng eu llywodraethau wrth frwydro dros fargen decach i'w cenhedloedd gan San Steffan.
Galwad i weithio mewn partneriaeth ar gyfiawnder yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i wella canlyniadau ar draws y system gyfiawnder yng Nghymru – dyna oedd neges y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams heddiw.
Cynllun gwerth £2m i helpu i wneud twristiaeth a lletygarwch yn fwy hygyrch
Cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, fod busnesau twristiaeth a lletygarwch ledled Cymru yn cael eu hannog i wneud cais am gynllun grant newydd gwerth £2m i wella hygyrchedd a chreu profiadau mwy cynhwysol i ymwelwyr.