English icon English
WG positive 40mm-2

Ymateb yr Ysgrifennydd Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Tachwedd a Rhagfyr 2024

Health Secretary response to latest NHS Wales performance data: November and December 2024

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

“Mae gwasanaeth iechyd Cymru yn parhau i ddarparu gofal o safon i filoedd o bobl bob dydd, a hynny yn wyneb lefelau uchel o alw ac o dan amgylchiadau sy’n aml yn rhai heriol.

“Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o’r ffliw a mathau eraill o salwch anadlol y gaeaf, gan gynnwys Covid-19, sydd wedi cynyddu’r pwysau ar wasanaethau gofal argyfwng a brys.

“Ym mis Tachwedd, fe gynyddais y cyllid i dargedu a lleihau’r arosiadau hiraf i £50m i helpu byrddau iechyd i ddarparu mwy o driniaethau, mwy o glinigau cleifion allanol a mwy o brofion diagnostig. Nid yw’r ffigurau hyn yn adlewyrchu’r buddsoddiad hwn eto.

“Mae byrddau iechyd wedi fy sicrhau bod cleifion yn cael triniaeth gyflymach o ganlyniad ac rwy’n edrych ymlaen at weld effaith hyn yn ystod y misoedd nesaf.

“Mae nifer y bobl sy’n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth nawr bron i ddwy ran o dair yn is nag ar ei anterth ac mae nifer y llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf hefyd bron i bumed yn is nag ar ei anterth ym mis Awst 2022.

“Bu gostyngiadau hefyd mewn arosiadau hir ar gyfer diagnosteg a therapïau ym mis Tachwedd.

“Ym mis Rhagfyr, nododd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y lefelau uchaf erioed o alwadau ‘coch’ 999 lle’r oedd bywyd yn y fantol – 13% yn uwch na’r nifer misol uchaf blaenorol. Ond roedd yr amser ymateb ar gyfartaledd yn gyflymach na’r mis diwethaf.

“Fe wellodd perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod o ran canser ym mis Tachwedd, gan gynyddu i 60%, a chafodd dros 14,000 o bobl y newyddion da nad oedd ganddyn nhw ganser.

“Mae gwaith yn parhau i gael ei wneud i leihau oedi wrth ryddhau cleifion o ysbytai. Dyma’r pedwerydd mis yn olynol y mae cyfanswm yr achosion o oedi wedi lleihau a ffigur mis Rhagfyr oedd yr isaf yn 2024.”