English icon English
Jeremy Miles-46

Cymru a Gogledd Iwerddon yn cydweithio ar brosiectau canser arloesol

Wales and Northern Ireland work together on groundbreaking cancer innovation projects

Mae pum prosiect arloesol ledled Cymru a Gogledd Iwerddon wedi cael cyfran o £1 miliwn i ddatblygu technoleg er mwyn lleihau amseroedd aros a gwella canlyniadau i gleifion canser.

Mae'r prosiectau wedi cael cyllid fel rhan o Her Ganser y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI), a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac Adran yr Economi Gogledd Iwerddon.

Dyma'r her gyntaf o'i math, a'i nod yw ceisio datblygu datblygiadau arloesol ymhellach sy'n arwain at roi diagnosis yn gynharach ac yn gyflymach, yn lleihau amseroedd aros, yn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd triniaeth ac yn cefnogi gofal lliniarol.

Ymhlith y syniadau mae profi dyfais sbwng capsiwl i leihau'r galw am brofion endosgopi, cynnal prawf gwaed ar gyfer rhoi diagnosis cynnar o ganser y colon, a defnyddio algorithmau i helpu i roi blaenoriaeth i gleifion canser yr ysgyfaint a'r gofrestra cyn canser ledled y boblogaeth sy'n defnyddio data genomeg i dargedu cleifion risg uchel.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yng Nghymru: "Mae canfod canser yn gynnar yn hanfodol er mwyn gwella cyfraddau goroesi. Mae datblygiadau sy'n gwella canlyniadau i bobl ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd i'w croesawu ac yn hanfodol i'r rhai y mae'r clefyd dinistriol hwn yn effeithio arnyn nhw.

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Gogledd Iwerddon i arwain y fenter hon ledled y DU i ymchwilio i atebion canser arloesol, a'u datblygu. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cefnogi gwaith y Gwasanaeth Iechyd i wella gofal – ac i fedru ei roi'n gynt – i bawb sy'n wynebu diagnosis o ganser."

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: "Mae gwella arloesi yn ein sector iechyd a gofal yn rhan hanfodol o gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru iachach a mwy ffyniannus.

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r fenter hon, y gyntaf o'i math, ac rwy'n gobeithio y bydd yn helpu i wella ansawdd gofal, gwneud y gorau o'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu ac arwain at ganlyniadau gwell i gleifion canser."

Ar ôl cystadleuaeth SBRI gystadleuol, y pum cwmni a ddewiswyd yw:

  • CYTED Ltd – Canfod clefydau yn gynnar gan ddefnyddio technoleg ddiagnostig nad yw'n endosgopig CYTED Ltd.
  • IBEX Medical Analytics Ltd – Diagnosteg wedi'i phweru gan ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer patholeg. Trawsnewid patholeg drwy sicrhau bod pob claf yn cael diagnosis o ganser mewn modd cywir, amserol a phersonol.
  • Cansense Ltd – Mae'r cwmni o Gymru, Cansense ar flaen y gad o ran trawsnewid diagnosis o ganser y coluddyn gyda phrawf cyflym, costeffeithiol a graddadwy sy'n defnyddio modelu seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial.
  • Qure AI Technologies Ltd – Yn cynnwys asesiad yn y byd go iawn o algorithmau pelydr-X o'r frest (qXR) a sgan tomograffeg gyfrifiadurol o'r frest (qCT) Qure i gynyddu cyflymder ac effeithlonrwydd gyda brysbennu a blaenoriaethu seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer cleifion yr amheuir bod ganddynt ganser yr ysgyfaint.
  • Future Perfect Healthcare Ltd – Datblygu cofrestrfa cyn canser ledled y boblogaeth a fydd yn nodi cleifion sydd mewn perygl gan ddefnyddio profion genomeg o diwmorau a data clinigol.

Bydd y gwersi a ddysgir o'r prosiectau'n cael eu rhannu gyda chomisiynwyr a chlinigwyr ledled Cymru a Gogledd Iwerddon yn ystod gwanwyn 2025.

Nodiadau i olygyddion

Dywedodd Mike Nesbitt, Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon: "Ni all y system iechyd a gofal cymdeithasol bresennol gwrdd â'r gofynion cynyddol sy'n cael eu gosod arni. Mae angen atebion arloesol arnom i ddarparu canlyniadau gwell i gleifion – gan roi diagnosis i'r claf cywir, a'i drin ar yr adeg gywir, wrth sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy.

"Canser yw prif achos marwolaethau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Yn anffodus, mae'r ystadegau diweddaraf i gael eu cyhoeddi yn dangos bod llai na 30% o gleifion Gogledd Iwerddon wedi dechrau eu triniaeth canser o fewn 62 diwrnod i atgyfeiriad brys gan feddyg teulu. Heb os, mae hyn yn cael effaith fawr ar eu canlyniadau, ac ar ansawdd eu bywyd. Nod y Strategaeth Ganser yw ceisio sicrhau bod pawb yng Ngogledd Iwerddon yn cael mynediad teg ac amserol at yr atgyfeiriad, y diagnosis, y driniaeth, y cymorth a'r gofal canser mwyaf effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

"Mae'r Her Ganser hon yn rhoi'r cyfle inni brofi ac integreiddio dulliau newydd addawol o ymdrin â gofal prif ffrwd. Mae hefyd yn dangos sut y gall cydweithio ar draws adrannau a rhanbarthau ysgogi newid ystyrlon. Diolch i Lywodraeth Cymru a chydweithwyr yn Adran yr Economi Gogledd Iwerddon am eu hymrwymiad i'r gwaith hanfodol hwn."

Dywedodd Conor Murphy, Gweinidog yr Economi: "Mae Cronfa Her SBRI fy adran yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu atebion arloesol i heriau cymhleth yn y sector cyhoeddus. Rwy'n falch bod y gronfa yn gallu gwneud cyfraniad pwysig i'r maes hanfodol hwn o iechyd y cyhoedd."

Northern Ireland Health Minister Mike Nesbitt said: “The current health and social care system cannot meet the growing demands placed on it. We need innovative solutions to deliver better outcomes for patients—diagnosing and treating the right patient at the right time, while ensuring services are sustainable.

“Cancer is the main cause of mortality in Wales and Northern Ireland. Unfortunately, our most recent published statistics show that less than 30% of Northern Ireland patients started their cancer treatment within 62 days of an urgent GP referral. This undoubtedly has a huge impact on their outcomes and quality of life. The Cancer Strategy seeks to ensure that everyone in Northern Ireland has equitable and timely access to the most effective, evidence-based referral, diagnosis, treatment, support and person-centred cancer care.

“This Cancer Challenge gives us the opportunity to test and integrate promising new approaches into mainstream care. It also demonstrates how cross-departmental and regional collaboration can drive meaningful change. I thank the Welsh Government and colleagues in the Department for the Economy NI for their commitment to this vital work.”

Economy Minister Conor Murphy said: “My Department’s SBRI Challenge Fund supports the development of innovative solutions to complex public sector challenges.  I am pleased that the fund is able to make an important contribution to this vital area of public health.”

The Cancer Challenge began in November 2024 and will run until March 2025. 

The project model is a collaboration which will be project managed and led by the Small Business Research Initiative (SBRI) Centre of Excellence in Wales and the Business Service Organisation’s (BSO) Innovation and Market Development Unit, Procurement and Logistics in Northern Ireland.

Funding for the project was secured from the NI Department for Economy at a total of £400,000, with the overall contribution, including investment from the Welsh Government, totalling £1m.

For further information visit Home - SBRI Centre of Excellence (sbriwales.co.uk)