English icon English

Llywodraeth Cymru yn dod â thoriad treth i ysgolion annibynnol i ben

Welsh Government ends tax break for independent schools

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi terfyn ar ryddhad ardrethi busnes ar gyfer rhai ysgolion sy'n codi ffioedd er mwyn defnyddio'r cyllid i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus lleol.

Ar hyn o bryd mae pob elusen yn derbyn rhyddhad o 80% o leiaf o'u biliau ardrethi annomestig, gan gynnwys rhai ysgolion sy'n codi ffioedd. Bydd dileu'r toriad treth hwn yn golygu bod ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol yn cael eu trin fel pob ysgol annibynnol arall yng Nghymru at ddibenion ardrethi annomestig.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi dileu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion annibynnol ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynllunio newidiadau tebyg yn Lloegr.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y newid y llynedd. Mae'r adborth wedi arwain at newidiadau i sicrhau bod y rhyddhad yn parhau i i fod yn berthnasol i ysgolion arbennig annibynnol lle mae'r rhan fwyaf neu'r holl ddysgwyr wedi'u lleoli yn yr ysgol gan yr awdurdod lleol fel rhan o ddarparu'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn eu cynllun datblygu unigol.

Bydd y newid yn dod i rym ar 1 Ebrill 2025, os caiff ei gymeradwyo gan y Senedd.

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg:

"Rydym yn credu y dylai ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol yng Nghymru gael eu trin yn yr un ffordd â'r rhai nad ydynt yn elusennau.

"Drwy ddileu'r toriad treth hwn, gallwn ryddhau cymaint â £1.3m bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus lleol."