Newyddion
Canfuwyd 4056 eitem, yn dangos tudalen 15 o 338
Bydd coets newydd rhwng gogledd a de Cymru yn torri mwy nag awr oddi ar amseroedd teithio
- Bydd y gwasanaeth coets newydd yn gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus rhwng gogledd a de Cymru ac yn lleihau amseroedd teithio o fwy nag awr.
- Bydd y goets rhwng y gogledd a’r de yn gweithredu gwasanaethau rheolaidd bob dydd, gan gysylltu Bangor â Chaerfyrddin.
- Mae'r gwasanaeth yn cefnogi symud oddi wrth deithio mewn car, gan gefnogi trawsnewidiad Cymru i economi carbon isel.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru i drawsnewid bwrdd iechyd y Gogledd
- Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau uniongyrchol i ysgogi gwelliannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn hytrach na'r bwrdd iechyd yn arwain y gwelliannau ei hun.
- Bydd panel annibynnol yn adolygu meysydd, gan gynnwys diogelwch cleifion, arweinyddiaeth a diwylliant, ac yn adrodd yn ôl erbyn diwedd mis Hydref.
- Dywed y Gweinidog Iechyd fod hwn yn ddatganiad clir o ymrwymiad i gefnogi gwelliannau ac i sicrhau bod pobl y Gogledd yn cael y gofal diogel ac amserol o ansawdd uchel y maen nhw'n ei haeddu.
Cyfle i ffermydd Cymru gael benthyciadau llog isel ar gyfer buddsoddiadau cynaliadwy
- Gall busnesau ffermio yng Nghymru wneud cais am fenthyciadau rhwng £25,001 ac £1 miliwn o 1 Gorffennaf 2026 ymlaen
- Mae'r cynllun yn cynnig cyfradd llog sefydlog o 3%, gyda gwyliau a thymhorau ad-dalu o hyd at 15 mlynedd
- Mae hyd at £5 miliwn ar gael yn 2026/27 i gefnogi gwelliannau mewn effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy a chynhyrchiant
100 o swyddi newydd a hwb sylweddol i leihau carbon wrth ehangu cwmni plastig
- 100 o swyddi newydd yng Ngorseinon a Thredegar erbyn mis Mawrth 2028
- Bydd y cwmni yn fwy na dyblu capasiti ailbrosesu Cymru ar gyfer plastig wedi'i ailgylchu
- Bydd yn cyfrannu at leihau ôl troed carbon Cymru o tua 150,000 tunnell y flwyddyn – sy'n cyfateb i dynnu 120,000 o geir oddi ar y ffordd
Grŵp arbenigol i gynllunio hybiau llawfeddygol newydd i leihau amseroedd aros y GIG
- Bydd grŵp newydd o lawfeddygon, nyrsys a rheolwyr y GIG yn bwrw ati i gynllunio hyd at ddeg hwb gofal wedi’i gynllunio ledled Cymru
- Bydd yr hybiau yn cynyddu’r capasiti llawfeddygol a diagnostig ac yn diogelu gofal wedi’i gynllunio rhag pwysau argyfwng.
- Disgwylir i’r cynllun cyflawni gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2026.
Buchesi Cymru’n cymryd y cam nesaf i ddileu BVD
- Cam nesa’ rhaglen y diwydiant i ddileu BVD yng Nghymru – gyda chefnogaeth undebau’r ffermwyr, milfeddygon, marchnadoedd ac arwerthwyr.
- Rheolau newydd ar 1 Gorffennaf 2026 i ddiogelu iechyd a lles gwartheg a chynhyrchiant ffermydd yng Nghymru
- Rhaid i geidwaid buchesi sydd heb statws BVD negatif gynnal profion cyn symud ar eu gwartheg cyn iddyn nhw adael y daliad
Llywodraeth Cymru yn pwyso dros bwerau newydd a chyllid teg yn y trafodaethau yn Stormont
- Gweinidog yn herio Llywodraeth y DU ar Fil Cymru a bwlch cyllido HS2
- Angen setliad cyllido teg, sy'n seiliedig ar anghenion i roi terfyn ar danariannu hanesyddol
- Ymweliad yn dilyn datganiad i'r Senedd, sy'n nodi blaenoriaethau gweinidogol llawn
Llywodraeth Cymru yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog
- Y Dirprwy Brif Weinidog yn bresennol mewn digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Sir Gaerfyrddin
- Cefnogir y digwyddiad eleni gan gyfraniad o £20,000
- Cymorth wedi’i dargedu ar draws meysydd datganoledig ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
Y Prif Weinidog yn siarad â Llysgenhadon yr UE i'r DU
Ddoe, anerchodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, y cynrychiolwyr i'r DU o brif wledydd yr UE.
Hwb ariannol o £20m i hybu darparu cartrefi cymdeithasol yng Nghymru
- £20 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i gynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol ledled Cymru
- Bydd cyllid yn helpu i symud pobl allan o lety dros dro anaddas i gartrefi o safon
- Mae buddsoddiad yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd
Grŵp arbenigol yn cyfarfod i lunio cynnig gofal plant estynedig Cymru
- Mae grŵp arbenigol wedi cyfarfod am y tro cyntaf i helpu i lunio cynlluniau i ehangu gofal plant a ariennir i blant rhwng naw mis a phedair oed yng Nghymru.
- Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar gynllunio’r gweithlu, cynyddu’r defnydd o'r cynnig, a symleiddio systemau.
- Roedd sefydlu’r grŵp yn un o ymrwymiadau’r 100 Diwrnod Cyntaf, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â thasglu gofal plant Llywodraeth Cymru i gefnogi’r broses o gyflwyno’r cynnig yn raddol.
Cymru ac Iwerddon yn cryfhau cysylltiadau yn ymweliad tramor cyntaf y Prif Weinidog
Bydd Cymru yn meithrin cysylltiadau economaidd, academaidd a diwylliannol cryfach ag Iwerddon, ar ôl i'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth wneud ei ymweliad tramor cyntaf â Dulyn heddiw.