Newyddion

Canfuwyd 3966 eitem, yn dangos tudalen 16 o 331

Welsh Government

Ffermwyr Cymru i gael Mynediad at Fenthyciadau Gwyrdd Llog Isel

Bydd busnesau ffermio Cymru yn gallu cael mynediad at gyllid fforddiadwy i foderneiddio eu gweithrediadau a lleihau allyriadau carbon, o dan gynllun benthyciadau newydd i'w lansio gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno gan Fanc Datblygu Cymru yn ddiweddarach eleni. 

Offshore wind - MPS-3

Buddsoddiad o £8 miliwn i ddatgloi safle gwynt ar y môr dŵr dwfn

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £8 miliwn mewn cwmni o Abertawe sy'n datblygu technoleg arloesol sy'n helpu i Gymru ddod yn arweinydd ym maes gwynt ar y môr.

Welsh Government

Cymru'n dod â'r arfer o werthu data personol pleidleiswyr i drydydd partïon i ben

Bydd data personol pobl yng Nghymru yn cael eu diogelu yn well ar ôl i'r Senedd gymeradwyo rheoliadau i ddiddymu'r gofrestr etholiadol agored ar 10 Mawrth.  

Welsh Government

Cymru yw gwlad gyntaf y DU i lansio cynllun 10 mlynedd i fynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol

Heddiw (dydd Iau 12 Mawrth) mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei strategaeth ddeng mlynedd nodedig ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol.

Dragon's Park-2

Gwaith uwchraddio cyfleusterau pêl-droed merched Cymru gwerth £1m

Bydd cae 3G newydd ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd yn gwella hyfforddiant i fenywod a merched ledled Cymru.

Welsh Government

Ysgolion cynradd Casnewydd yn elwa ar gyllid Great British Energy

Mae dwy ysgol gynradd yng Nghasnewydd wedi derbyn paneli solar fel rhan o gyllid gwerth £9 miliwn ar gyfer datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus a lleihau biliau ynni.

SCFL Collage-2

Ysgolion, colegau a phrifysgolion i elwa ar dros £40 miliwn o gyllid cynnal a chadw ychwanegol

Mae £40.5 miliwn yn ychwanegol o gyllid wedi'i ddyrannu eleni i gefnogi gwaith atgyweirio a chynnal a chadw cyfalaf hanfodol ar draws yr ystad addysg yng Nghymru.

Mae hyn yn adeiladu ar y cyhoeddiad blaenorol o £20 miliwn ar gyfer ysgolion a cholegau a wnaed ym mis Ionawr.

Welsh Government

'Cam enfawr ymlaen' ym maes diogelwch tân yng Nghymru

Mae Cymru wedi cymryd cam mawr ymlaen o ran diogelu preswylwyr yn eu cartrefi ar ôl i'r Senedd heddiw (dydd Mawrth, 10 Mawrth) basio'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) — un o'r darnau mwyaf o ddeddfwriaeth a ystyriwyd erioed gan y Senedd.

Ysgol Y Graig - NDEC-5

Hwb ariannol i adeiladu gweithlu seiberddiogelwch yfory

Bydd dros £740,000 o gyllid Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru yn helpu i ysbrydoli miloedd yn rhagor o blant ledled De-ddwyrain Cymru i archwilio gyrfaoedd seiberddiogelwch.

Welsh Government

Cymru yn arwain y ffordd – dileu elw o gartrefi plant, gwasanaethau maethu a llety diogel o 1 Ebrill ymlaen

Mewn llai na mis, ni fydd darparwyr newydd cartrefi plant, gwasanaethau maethu a llety diogel yn gallu gwneud elw yng Nghymru mwyach, gan ei gwneud y genedl gyntaf yn y DU i roi’r cam hollbwysig hwn ar waith.

Defence Cluster 9 March-2

Grŵp newydd i ddod â sefydliadau ynghyd yn sector amddiffyn cynyddol Cymru

Gall busnesau, prifysgolion a cholegau Cymru gael mynediad bellach at gyfleoedd newydd yn y sector amddiffyn sy'n tyfu drwy Glwstwr Amddiffyn a Diogelwch Rhanbarthol Cymru, a lansiwyd heddiw (9 Mawrth).

Gig Pontypridd

Ap newydd yn rhoi cerddoriaeth Gymraeg fyw yn dy boced

Mae platfform ar-lein poblogaidd ar gyfer cerddoriaeth fyw Gymraeg yn ehangu, gyda lansiad ap symudol newydd Awni?