English icon English
Sarah Murphy-13

Holi’r cyhoedd am strategaeth dementia 10 mlynedd newydd

Public asked about new 10-year dementia strategy

Gofynnir i'r cyhoedd helpu i lywio dyfodol cymorth i bobl â dementia a'u teuluoedd, wrth i strategaeth 10 mlynedd newydd gael ei chyhoeddi heddiw.

Mae'r Strategaeth Dementia newydd yn adeiladu ar lwyddiannau Cynllun Gweithredu Dementia cyntaf Cymru sydd wedi helpu i wella gwasanaethau a chael gwared ar y stigma o fyw gyda dementia.

Mae mwy na 400 o bobl eisoes wedi helpu i ddatblygu'r blaenoriaethau yn y strategaeth newydd. Nawr mae ymgynghoriad yn cael ei lansio i fireinio'r strategaeth ymhellach.

Mae'n canolbwyntio ar saith maes allweddol:

  • Lleihau risg ac atal dementia.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia.
  • Gwella diagnosis, triniaeth a gofal.
  • Cefnogi gofalwyr di-dâl.
  • Datblygu’r gweithlu.
  • Hyrwyddo ymchwil ac arloesi.
  • Cryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.

Mae'r strategaeth yn cydnabod y gellid atal neu oedi bron i hanner yr achosion o ddementia drwy newidiadau ffordd o fyw fel parhau i wneud gweithgarwch corfforol, cynnal cysylltiadau cymdeithasol a rheoli cyflyrau fel pwysedd gwaed uchel a diabetes.

Mae hefyd yn mynd i'r afael ag anghenion penodol siaradwyr Cymraeg, defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain a phobl o gymunedau amrywiol, gan sicrhau bod gofal yn sensitif yn ddiwylliannol ac yn briodol yn ieithyddol.

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

"Rydyn ni am i Gymru fod yn wlad lle mae pobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu parchu, eu cynorthwyo a'u grymuso i fyw'n annibynnol gydag urddas yn eu cymunedau.

"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig wrth ddatblygu strategaeth sydd wir yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i bobl y mae dementia'n effeithio arnynt.

"Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i rannu eu barn a'n helpu i greu Cymru sy'n rhydd o stigma, lle mae pawb yn deall dementia ac yn cyfrannu at gymdeithas dosturiol a chynhwysol."

Mae egwyddorion allweddol yn sail i'r strategaeth, gan gynnwys gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, dull sy'n seiliedig ar hawliau a gwasanaethau integredig ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'n cael ei llunio ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd o ddementia, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gofalwyr a sefydliadau ledled Cymru.

Dywedodd Gemma Roberts, rheolwr dylanwadu cenedlaethol Cymdeithas Alzheimer's yng Nghymru: 

"Dementia yw prif achos marwolaethau yn y DU, ond gallai'r ymgynghoriad hwn fod yn drobwynt i Gymru. 

"Mae Cymdeithas Alzheimer's yn falch o fod wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru ar flaenoriaethau'r ymgynghoriad hwn sydd, os cânt eu gweithredu, â'r potensial i drawsnewid bywydau pawb y mae dementia'n effeithio arnynt yng Nghymru. 

"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam enfawr ymlaen ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r manylion, a sicrhau bod y strategaeth yn cyflawni newid gwirioneddol dros y 10 mlynedd nesaf." 

Nodiadau i olygyddion

  1. The consultation is open until 6 April. You can respond online at:
  2. Draft dementia strategy for Wales 2026 to 2036 | GOV.WALES
  3. Strategaeth ddrafft dementia Cymru 2026 i 2036 | LLYW.CYMRU
  4. The previous Dementia Action Plan was published in February 2018, with a Companion Document published in 2021.
  5. An independent evaluation of the previous plan found it had positively transformed the dementia landscape in Wales, whilst recognising more work is needed to optimise care and support.
  6. More than 400 people responded to an initial questionnaire in 2024 about priorities for the new strategy.