English icon English

Adolygiad annibynnol yn cefnogi Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig yng Nghymru

Independent review backs Automatic Voter Registration in Wales

Mae treialon ledled Cymru wedi llwyddo i gofrestru dros 16,000 o bleidleiswyr newydd yn awtomatig, yn ôl gwerthusiad annibynnol, gan baratoi'r ffordd ar gyfer democratiaeth fwy hygyrch. 

Cymru oedd y genedl ddatganoledig gyntaf yn y DU i dreialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn gynharach eleni, gan weithio gyda phedwar awdurdod lleol – Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys – i brofi sut y gellid defnyddio data lleol i gofrestru pleidleiswyr heb fod angen cais. 

Canfu gwerthusiad y Comisiwn Etholiadol, a gyhoeddwyd heddiw (17 Rhagfyr 2025), fod y cynlluniau peilot wedi ychwanegu ychydig dros 14,500 o bleidleiswyr newydd at y cofrestrau (a oedd yn cynrychioli rhwng 2-8% o'r gofrestr ym mhob ardal awdurdod lleol).

Yn hollbwysig, roedd y cynllun hefyd wedi cofrestru tua 1,500 o gyrhaeddwyr ifanc 14-15 oed yng Ngwynedd a Phowys – sy'n cynrychioli hyd at 37% o'r holl gyrhaeddwyr posibl yn yr ardaloedd hynny. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: 

"Rwy'n croesawu gwerthusiad trylwyr y Comisiwn Etholiadol o'r treialon cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Mae'r canfyddiadau'n dangos yn glir y gallai gweithredu'r newid hwn wneud ein democratiaeth yn fwy hygyrch, yn enwedig i bobl ifanc ac eraill sydd ar hyn o bryd wedi'u tangynrychioli ar y gofrestr. 

"Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau y gall pob pleidleisiwr cymwys gymryd rhan yn ein democratiaeth, a hoffwn ddiolch i bob un o'r pedwar awdurdod lleol a gymerodd ran yn y cynlluniau peilot. Byddwn nawr yn ystyried argymhellion y Comisiwn Etholiadol yn ofalus cyn gwneud penderfyniadau ar gyflwyno hyn ymhellach ledled Cymru." 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio: "Roeddem yn falch o gymryd rhan yn y cynllun peilot pwysig hwn, sy'n dangos sut y gall cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig wneud democratiaeth yn fwy cynhwysol a hygyrch. Ym Mhowys, gwelsom fanteision gwirioneddol i bobl ifanc ac eraill a fyddai fel arall yn colli'r cyfle i'w llais gael ei glywed. Mae hwn yn gam cadarnhaol tuag at sicrhau fod pob pleidleisiwr cymwys yn cael ei gynrychioli."

Ni fydd cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn cael ei gyflwyno ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026. Dylai'r rhai nad ydynt wedi cofrestru o'r blaen, sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar neu wedi newid eu henw barhau i gofrestru ar https://gov.uk/register-to-vote erbyn hanner nos ddydd Llun 20 Ebrill.