Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 18 o 248
Ffair swyddi a chynhadledd i gyn-filwyr yn y Gogledd gyntaf
Mae'r ffair swyddi a'r gynhadledd gyntaf ar gyfer cyn-filwyr, y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn y Gogledd wedi cael ei chynnal yn Wrecsam. Roedd yn meithrin cysylltiad uniongyrchol rhwng cymuned y Lluoedd Arfog a chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Cynhaliwyd y ffair swyddi ochr yn ochr â chynhadledd i gyflogwyr, a thynnwyd sylw at y llu o fanteision y gall cyn-filwyr eu cynnig i'r gweithle.
Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, sydd â chyfrifoldeb dros y lluoedd arfog, yn y digwyddiad.
Dywedodd: "Mae'n bleser arbennig i mi fod yn y digwyddiad hwn yn y Gogledd, ac i gwrdd â rhai o'r cyn-filwyr a'r cyflogwyr sydd wedi dod yma.
"Mae 25 o gyflogwyr yn y digwyddiad hwn ac mae ganddynt swyddi ar hyn o bryd. Mae'n dda gweld sut y gallant feithrin cysylltiadau â chyn-filwyr. Mae'r gynhadledd, sy'n cael ei chynnal ochr yn ochr â'r ffair, hefyd yn rhoi cyfle i gyflogwyr glywed am y manteision y gall cyflogi cyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog eu cynnig i fusnesau.
"Mae'r cyflogwyr sydd wedi dod i'r digwyddiad yn cynnwys, er enghraifft, Trafnidiaeth Cymru, deiliaid Gwobrau Aur yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, a chwmni sy'n hynod gefnogol i'r syniad o ddatblygu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol i gymuned y Lluoedd Arfog.
"Mae gan ein cyn-filwyr sgiliau a phrofiad unigryw a all fod o fudd gwirioneddol i gyflogwyr. Rwy'n falch bod 172 o gyflogwyr yn y Gogledd, hyd yma, wedi addo cefnogi hyn, trwy lofnodi cyfamod y Lluoedd Arfog."
Dywedodd Julianne Williams o elusen Cyflogaeth y Lluoedd Arfog: "Yn bersonol, Ffair Gyflogaeth Cymru yw uchafbwynt y flwyddyn i mi, gan fy mod yn cael ymwneud â chronfa o dalent o Gymru, boed hynny yn y cwmnïau yng Nghymru, neu ymhlith y rhai sy'n dal i wasanaethu yn y lluoedd arfog neu'n gyn-filwyr. Rwy'n gyn-filwr gyda'r Awyrlu Brenhinol a bûm yn gwasanaethu am 25 mlynedd a dewisais ddod yn ôl adref a dod o hyd i waith yng Nghymru. Hoffwn pe bai rhywbeth fel hyn wedi bod ar gael i mi pan adewais i'r lluoedd arfog."
Gwaith hanfodol ar yr A465 am bum wythnos
Cynghorir modurwyr y bydd rhan yr A465 rhwng cyffordd yr A470 (Cefn Coed) a'r gylchfan dros dro yn Ystâd Ddiwydiannol Pant ar gau yn llawn am bum wythnos yr haf hwn, er mwyn caniatáu i waith pwysig gael ei gwblhau yn gynt a gyda llai o ansicrwydd i'r cyhoedd sy'n teithio.
Lansio canllawiau newydd gyda’r nod o leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac addysgol
Mae’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol wedi croesawu set o adnoddau newydd gyda’r nod o leihau’r defnydd o arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac addysgol.
Adborth y diwydiant ffermio yn siapio newidiadau newydd i brofion TB a gyhoeddir heddiw.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi rhagor o newidiadau i brofion TB yng Nghymru ar ol iddo gyfarfod a gwrando ar ffermwyr ar draws Cymru.
ChatGPT yn dysgu Cymraeg
Partneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru ac OpenAI i wella ChatGPT yn Gymraeg.
Deddf hanesyddol yn cryfhau democratiaeth yng Nghymru
Mae democratiaeth yng Nghymru yn cael ei chryfhau heddiw (24 Mehefin) wrth i Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae’r diwygiadau sy’n dod yn gyfraith heddiw yn gyfle sy’n digwydd unwaith mewn cenhedlaeth.
Ymweliad â’r Cymoedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd Wythnos Gwaith Ieuenctid
I ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Lynne Neagle a’r Prif Weinidog Vaughan Gething â phrosiect yn Nhonypandy, Plant y Cymoedd.
Unrhyw beth yn bosibl i fenywod mewn peirianneg yng Nghymru
Agorwyd llygaid Grace Lewis gan NASA, cafodd ei chefnogi gan Brifysgol De Cymru ac mae bellach yn brif beiriannydd yn Aston Martin.
Cyllid newydd yn gerddoriaeth i glustiau'r diwydiant
Ar Ddiwrnod Cerddoriaeth y Byd [dydd Gwener, 21 Mehefin], mae Cymru Greadigol wedi cyhoeddi £300,000 o gyllid i helpu i dyfu a meithrin y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Gweinidog y Blynyddoedd Cynnar yn lansio canllawiau gwrth-hiliol ar gyfer lleoliadau gofal plant
Mewn digwyddiad lansio yn y Gogledd, croesawyd canllawiau sydd â'r nod o greu diwylliant gwrth-hiliol mewn lleoliadau gofal plant yng Nghymru gan Weinidog y Blynyddoedd Cynnar, Jayne Bryant.
Cenedlaethau'r dyfodol yn amlinellu syniadau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Fel rhan o Her Hinsawdd Cymru, cymerodd 50 o ddisgyblion o 10 ysgol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ran mewn digwyddiad Hinsawdd Ieuenctid yn y Senedd yr wythnos hon.