Hwb o £36 miliwn ar gyfer cartrefi fforddiadwy ac uwchraddio gwyrdd yng Nghymru
£36 million boost for affordable homes and green upgrades in Wales
Mae Llywodraeth Cymru wedi ailagor ei Chynllun Benthyciadau Datblygu i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs) ar gyfer 2025/26 ac wedi dyrannu £36 miliwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu cartrefi carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol a helpu i wella cartrefi presennol.
Bydd y benthyciadau yn galluogi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddatblygu tai mwy fforddiadwy tra hefyd yn mynd i'r afael â'r angen dybryd am gartrefi ynni-effeithlon ledled Cymru.
Gall y cyllid gael ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy newydd ac i wella cartrefi presennol i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023).
Bydd benthyciadau cost isel rhwng £1 miliwn a £10 miliwn ar gael, gan gynnig dewis arall fforddiadwy i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn lle benthyca masnachol, gan ddarparu gwerth am arian a manteisio ar bob dull posibl i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy.
Bydd y rownd newydd hon o fenthyciadau yn adeiladu ar lwyddiant y cynllun benthyciadau blaenorol gwerth £90 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025 sydd ar y trywydd iawn i ddarparu 277 o gartrefi fforddiadwy a gwella mwy na 4,000 o gartrefi.
Yn ddiweddar, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, â Chanise a Martin Brewer yn eu cartref yn Llanrhymni, Caerdydd.
Roedd y cwpl yn byw mewn cartref dwy ystafell wely a oedd yn rhy fach iddyn nhw a'u pedwar o blant. Diolch i gyllid blaenorol gan Lywodraeth Cymru, roedd Tai Taf yn gallu cynnig cartref mwy o faint iddynt lle gall y teulu ffynnu.
Dywedon nhw: "Roedden ni wedi anobeithio o ran symud i gartref mwy i ddiwallu anghenion ein teulu. Fe wnaethon ni archwilio'r farchnad rhentu preifat, ond roedd yn rhy ddrud. Mae'r cyfle a gawsom gan Taf i symud yn sgil cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi newid ein bywydau."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Mae angen mwy o gartrefi fforddiadwy ac ynni-effeithlon arnom nawr ac ar gyfer y dyfodol, ac mae mor bwysig ein bod yn parhau i archwilio ffyrdd arloesol o gynyddu'r cyflenwad o dai i unigolion a theuluoedd ledled Cymru."
"Mae'r buddsoddiad hwn o £36 miliwn yn bwysig - bydd yn helpu i ddarparu'r cartrefi cynnes, ynni-effeithlon sydd eu hangen arnom ledled Cymru.
"Trwy gefnogi ein darparwyr tai yn ystod y cyfnod heriol hwn, rydym nid yn unig yn adeiladu tai ond hefyd yn creu cymunedau lle gall pobl ffynnu."
Mae Tai Taf wedi derbyn £10 miliwn mewn rowndiau blaenorol o gyllid ar gyfer benthyciadau gan Lywodraeth Cymru a disgwylir iddo ddarparu 35 o gartrefi. Mae 25 eisoes wedi'u sicrhau.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Tai Taf, Helen White: "Diolch i'r benthyciad llog isel hwn o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru, gallwn sicrhau 35 o gartrefi o ansawdd uchel o'r farchnad agored a'u defnyddio fel tai fforddiadwy hirdymor. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o deuluoedd yn cael mynediad at gartrefi diogel ac ynni-effeithlon yn llawer cynt, ar adeg pan fo'r galw yn uchel ar draws ein cymunedau.
"Mae gan y cartrefi dwy i bedair ystafell wely hyn oll dystysgrif EPC C ac uwch ac maent yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, felly bydd preswylwyr yn elwa ar gartrefi cynnes, cyfforddus o'r dechrau'n deg. Mae darparu mwy o gartrefi o'r ansawdd hwn o fewn ein cymunedau yn gam cadarnhaol arall i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i deuluoedd lleol."
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Busnes a Chyllid Tai Taf, Caroline Lawley: "Mae'r cyllid hwn ar gyfer benthyciadau yn rhoi'r hyblygrwydd i ni gaffael cartrefi y mae gwir eu hangen yn gyflym, heb ddibynnu ar gyllid grant traddodiadol, a sicrhau eu bod ar gael i deuluoedd sydd eu hangen. Rydym yn croesawu'r cymorth hwn ac yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
"Mae'n fuddsoddiad a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, gan ein helpu i ddarparu cartrefi o ansawdd da, ynni-effeithlon o fewn ein cymunedau. Mae hefyd yn ein helpu i ddarparu mwy o gartrefi mewn ffordd gost-effeithiol, gan ein galluogi i ymateb yn gyflymach i anghenion tai lleol a sicrhau bod gan fwy o deuluoedd gartref diogel a chyfforddus."
DIWEDD