Newyddion
Canfuwyd 3194 eitem, yn dangos tudalen 22 o 267

Cefnogaeth o fudd i gyn-filwyr
Cyn Sul y Cofio, mae Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Lluoedd Arfog, Ken Skates, wedi croesawu'r newyddion am £3.5m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer y rhaglen Lleihau Digartrefedd Cyn-filwyr.

Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu Cyngor Sir y Fflint i fod yr awdurdod lleol cyntaf i ymgynghori ar ffyrdd lle gall 20mya newid
Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi croesawu Cyngor Sir y Fflint i fod yr awdurdod lleol cyntaf i gyhoeddi dechrau'r broses statudol ar ffyrdd lle y gellir gwneud newidiadau i'r terfyn cyflymder o 20mya.

Dirprwy Brif Weinidog yn lansio Wythnos Hinsawdd fwyaf Cymru hyd yma
Sut y gall Cymru addasu i hinsawdd sy'n newid?

Blwyddyn o helpu perchnogion tai i aros yn eu cartrefi
Flwyddyn ers ei lansio, mae Cymorth i Aros Cymru wedi bod yn rhoi cymorth a chyngor amhrisiadwy i berchnogion tai ledled y wlad i’w helpu i aros yn eu cartrefi.

Ysgolion yng Nghymru yn elwa o brosiect gwrth-hiliol wrth i’r gynllun gael ei adnewyddu
Mae prosiect sy'n helpu ysgolion i addysgu dysgwyr am sut i herio hiliaeth yn chwarae rhan allweddol yn nod Llywodraeth Cymru i greu cenedl wrth-hiliol erbyn 2030.

Uchelgais Cymru i fod ar flaen y gad yn y maes genomeg gam yn agosach at gael ei gwireddu
Wedi i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) lofnodi cytundeb newydd, uchelgeisiol i gydweithredu â chwmni technoleg gwyddoniaeth blaenllaw, mae Cymru yn agosach at gael hawlio ei lle fel gwlad sy’n arwain y ffordd yn y maes genomeg.

“Gwneud hanes” – gwaith yn dechrau ar greu Llinell Amser Hanes Cymru
"Mae ein hanes wedi siapio'r Gymru sydd ohoni heddiw, mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn dysgu am ein treftadaeth gyfoethog ac amrywiol yn yr ysgol". Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells heddiw (22 Hydref) fod gwaith ar greu Llinell Amser Hanes Cymru newydd wedi dechrau. Bydd yn cynnwys adnoddau a gwybodaeth i athrawon ac ymarferwyr.

Addasiadau i'r cartref sy'n cefnogi byw'n annibynnol mwy diogel
Mae Care & Repair yn elusen ledled Cymru sy'n gweithio i sicrhau bod gan bobl hŷn gartrefi sy'n addas i'w hanghenion.

Presenoldeb, llythrennedd a rhifedd yn hanfodol ar gyfer gwella safonau ysgolion wrth i ystadegau ddangos bod lefelau presenoldeb ysgolion yn gwella
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi amlinellu'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwella ysgolion yng Nghymru, yn ogystal â mwy o gyllid ar gyfer mentrau i wella cyrhaeddiad mewn llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth.

Diffodd y difrod i genedlaethau’r dyfodol
Heddiw yn Senedd San Steffan, mae deddf newydd wedi’i chyflwyno sy’n anelu at greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf.

Gwiriwch pa gymorth ariannol y gallech fod â hawl iddo
Gyda'r Wythnos Siarad Arian yn mynd rhagddi, mae'r Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn annog pobl i wirio pa gymorth ariannol y maent yn gymwys i'w dderbyn, oherwydd gallai fod cymorth ar gael, gan gynnwys credyd pensiwn, nad ydynt wedi ei hawlio.

£14 miliwn i ffermwyr ar gyfer rhagor o gynlluniau Cyfnod Paratoi'r SFS
Heddiw [dydd Llun 4 Tachwedd], cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod y ffenest ymgeisio am gynlluniau ychwanegol cyfnod paratoi'r SFS wedi agor.