Ken Skates yn croesawu newidiadau Llywodraeth y DU i archebu profion gyrru
Ken Skates welcomes UK Government’s changes to driving test booking
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd newidiadau i'r ffordd y mae profion gyrru yn cael eu harchebu, er mwyn sicrhau dim ond gyrwyr sy'n dysgu sy'n gallu archebu slotiau ac i leihau aros am brofion.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddiad Llywodraeth y DU heddiw y byddant yn delio â'r ailwerthwyr a'r ‘bots’ sydd wedi bod yn atal pobl yng Nghymru rhag cael slotiau prawf gyrru amserol.
"Mae pobl ifanc ledled Cymru wedi cael llond bol o aros misoedd am eu profion felly rwy'n falch y bydd hyn yn eu rhoi yn ôl ar flaen y ciw."
Nodiadau i olygyddion
Er gwybodaeth:
Nid yw'r maes polisi hwn wedi'i ddatganoli i Gymru.