Newyddion
Canfuwyd 3877 eitem, yn dangos tudalen 21 o 324
Pobl dros 60 oed i elwa o gynllun ffitrwydd am ddim
Mae gan bobl dros 60 oed bellach fynediad at 125 o sesiynau chwaraeon a ffitrwydd am ddim neu ostyngol mewn canolfannau hamdden, mannau awyr agored a lleoliadau cymunedol ledled Cymru.
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog
Yn ymateb i'r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU ynglŷn â rhyddhad eiddo amaethyddol, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
System sgorio gofal newydd yn dangos perfformiad cadarn ledled Cymru
Mae dros 92% o wasanaethau gofal yng Nghymru wedi cyflawni safonau uchel yn ystod y saith mis cyntaf o weithredu system sgorio newydd.
£1.8m i atgyweirio amddiffynfeydd rhag llifogydd yn dilyn Storm Claudia
Mae £1.8 miliwn o gyllid brys wedi'i gadarnhau i atgyweirio difrod seilwaith amddiffyn rhag llifogydd oherwydd Storm Claudia.
£1.5 miliwn i helpu i gadw cymunedau'n gynnes ac mewn cysylltiad
Mae dros 400 o hybiau clyd ledled Cymru yn darparu cymorth hanfodol i gymunedau y gaeaf hwn, diolch i gyllid gwerth £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Gwirfoddolwyr FareShare Cymru yn mynd i'r afael â gwastraff bwyd y Nadolig hwn
Yn ddiweddar, ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies, â FareShare Cymru yng Nghaerdydd i weld sut y bydd teuluoedd bregus ledled Cymru yn elwa o wasanaethau ailddosbarthu bwyd ehangach y Nadolig hwn.
Buddsoddiad gwerth £8.94 miliwn i drawsnewid gwasanaethau diwylliannol ledled Cymru
Mae buddsoddiad mawr gwerth dros £8.94 miliwn i gryfhau amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a lleoliadau diwylliannol eiconig Cymru wedi'i gyhoeddi heddiw [ddydd Llun 22 Rhagfyr] i dyfu a chryfhau sylfeini diwylliannol “hanfodol” y genedl.
Y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol yn dod â chymunedau ynghyd yn ysbryd y Nadolig
Mae'n gyfnod prysur i wasanaethau cerddoriaeth lleol ledled Cymru, a'r Nadolig yn prysur agosáu. Maent wrthi yn helpu disgyblion, teuluoedd a cymunedau i greu profiadau bythgofiadwy sy'n llawn swyn. Ym mhob cwr o'r wlad, mae plant a phobl ifanc, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, yn mwynhau perfformio yn yr ysgol, mewn neuaddau cyngerdd ac archfarchnadoedd i ledaenu hud y Nadolig.
Clybiau pêl-droed yn cael eu hannog i fanteisio ar gwrs iechyd meddwl
Mae'r Gweinidog Chwaraeon yn annog clybiau pêl-droed ledled Cymru i gymryd cwrs hyfforddi iechyd meddwl i gefnogi timau, hyfforddwyr a chwaraewyr yn well.
Dod â gwasanaethau hanfodol yn ôl i Rogiet
Mae siop a chaffi cymunedol newydd wedi agor yn Rogiet, gan adfer gwasanaethau nad oedden nhw yn y pentref a chreu gofod croesawgar i bobl o bob oedran.
Dros £10 miliwn i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol
Bydd mwy na £10 miliwn o bunnau o gyllid yn cefnogi sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol ar draws Cymru – dyna gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw.
Cefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal drwy raglen beilot arloesol
Mae gwerthusiad annibynnol wedi canfod bod rhaglen beilot y Model Ysgolion Rhithwir wedi helpu i fynd i'r afael ag anghenion plant sy'n derbyn gofal a chefnogi eu cynnydd addysgol.