Grantiau ar agor i helpu cymunedau i wella mannau lleol
Grants open to help communities improve local spaces
Gall grwpiau cymunedol nawr wneud cais am grantiau o hyd at £300,000 i wella adeiladau lleol, sicrhau cyfleusterau gwerthfawr a mannau cymorth lle gall pobl ddod at ei gilydd.
Ers 2015, mae mwy na £70 miliwn wedi cefnogi bron i 500 o brosiectau cymunedol ledled Cymru. Mae'r cyllid hwn wedi helpu i gadw mannau pwysig ar agor, atgyweirio adeiladau sy'n heneiddio, diweddaru ystafelloedd cymunedol a chynnal cyfleusterau a ddefnyddir ar gyfer cyfarfodydd, gweithgareddau a gwasanaethau lleol.
Un gymuned sydd wedi elwa o'r gefnogaeth hon yw Llandyrnog yn Sir Ddinbych. Pan oedd Swyddfa'r Post am gau, camodd pobl leol i'w achub ac ailagor siop a chanolfan gymunedol mawr ei hangen. Fe wnaethant dderbyn £200,000 o'r rhaglen, a'u helpodd i brynu'r adeilad a gwneud gwaith adnewyddu hanfodol. Sicrhaodd hyn wasanaeth a fydd yn cefnogi'r pentref am genedlaethau a chreu gofod sy'n parhau i chwarae rôl ymarferol a chymdeithasol ym mywyd bob dydd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Siop Gymunedol Llandyrnog, Ian Wilson: "Roedd gallu achub y siop yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gymuned. Mae'n rhywle i brynu'r hyn sydd ei angen arnoch ar garreg eich drws, ond mae hefyd yn lle y gall bobl ddod at ei gilydd, sgwrsio a chadw mewn cysylltiad. Mae'r cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi ein helpu i gynnal rhan bwysig o fywyd y pentref."
Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, â'r safle yn gynharach y mis hwn. Dywedodd: "Roedd ymweld â Llandyrnog yn gyfle gwych i weld sut mae'r gymuned leol wedi gwarchod a gofalu am un o'u hadeiladau mwyaf poblogaidd. Mae'r siop, y swyddfa bost a'r ganolfan yn darparu gwasanaethau hanfodol a lle i bobl gwrdd a chefnogi ei gilydd.
"Bwriad y cyllid hwn yw rhoi cyfle i gymunedau gynnal, gwella a llunio'r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt. Rwy'n annog grwpiau cymunedol ledled Cymru i wneud cais a meddwl yn greadigol am sut y gall eu mannau lleol ddiwallu anghenion y bobl sy'n eu defnyddio."
Mae dau opsiwn grant ar agor. Gall grantiau llai o hyd at £25,000 gynorthwyo gyda gwelliannau. Gall grantiau mwy o hyd at £300,000 helpu gyda gwaith mawr neu brynu adeilad.
Anogir grwpiau a arweinir gan y gymuned, gan gynnwys elusennau, sefydliadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol, i wneud cais.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais, ar gael yma.