Datganiad gan Prif Weinidog Cymru
Statement from the First Minister of Wales
Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru:
“Rwy'n croesawu’r ail adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi gan Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y Deyrnas Unedig. Hoffwn ddiolch i gadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Hallett, a'i thîm am eu gwaith ac am yr adroddiad heddiw.
“Mae'n bwysig ein bod ni’n cofio bod nifer fawr o bobl wedi dioddef colled a dioddefaint enfawr yn sgil Covid-19. Heddiw, rhaid i'n meddyliau ni fod gyda nhw uwchlaw popeth arall.
“Byddwn yn treulio amser yn darllen yr adroddiad a byddwn yn gweithio gyda llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig dros y misoedd nesaf i ystyried yr argymhellion a gweithredu arnynt. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu gwersi o'r pandemig ac yn parhau i gymryd rhan weithredol yn ymchwiliad y DU.”
Nodiadau i olygyddion
Mi fydd datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog yn dilyn yn fuan. Gellir dod o hyd iddo yma: Hysbysiadau | LLYW.CYMRU