English icon English
Monmouth-3

Cadarnhau cefnogaeth ariannol Storm Claudia i Sir Fynwy

Storm Claudia financial support confirmed for Monmouthshire

Bydd cymorth ariannol yn cael ei ddarparu i bobl yn Sir Fynwy yn dilyn digwyddiadau eithriadol Storm Claudia, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 19). 

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £2.5m ar gael yn dilyn digwyddiadau tywydd eithafol y penwythnos a welodd Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn datgan digwyddiad mawr. 

Mae'r cymorth yn cynnwys cyllid ar gyfer grantiau, a fydd yn cael eu rhoi drwy Gyngor Sir Fynwy, ar gyfer aelwydydd yr effeithwyd arnynt.  

Mae grantiau o £1,000 a £500 fesul cartref yr effeithwyd arnynt gan lifogydd ar gael a dylai'r rhai yr effeithwyd arnynt gysylltu â Chyngor Sir Fynwy i gael rhagor o wybodaeth. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:

"Mae ymateb Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn aruthrol wrth gefnogi anghenion y gymuned yn dilyn Storm Claudia. 

"Rwy'n falch o allu cadarnhau heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol i Sir Fynwy yn dilyn y digwyddiadau eithriadol hyn. 

"Bydd y cyllid hwn yn cefnogi costau gyda phopeth o wacáu pobl a darparu bwyd i gael gwared ar wastraff cartref a llogi cerbydau a pheiriannau ychwanegol. 

"Byddwn hefyd yn cefnogi costau'r cyngor wrth roi gostyngiadau treth gyngor yn ôl disgresiwn i'r rhai a ddioddefodd lifogydd.   

"Yn olaf, rydym yn cydymdeimlo gyda busnesau yng nghanol Trefynwy sydd wedi cael eu heffeithio'n arw gan hyn. 

"Byddwn hefyd yn ariannu'r cyngor wrth ddarparu gostyngiadau yn ôl disgresiwn mewn ardrethi annomestig ar gyfer eiddo yr effeithwyd arnynt." 

I gael rhagor o wybodaeth am lifogydd a'r cymorth a ddarperir gan Gyngor Sir Fynwy, ewch i: monmouthshire.gov.uk/storm-claudia