Cynllun newydd i wreiddio manteision AI ledled Cymru
New plan to embed benefits of AI across Wales
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd i wreiddio manteision Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn gwahanol sectorau a llywio ei ddylanwad i wella bywydau pobl ledled Cymru.
Wythnos ar ôl lansio'r Parth AI ar gyfer Gogledd Cymru, mae'r Cynllun AI i Gymru yn nodi sut y bydd pŵer trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial yn cael ei groesawu ledled Cymru i sbarduno twf economaidd, gwella gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg a Saesneg, ac arfogi pobl ledled Cymru gyda'r sgiliau i ffynnu mewn dyfodol lle mae AI yn chwarae rhan flaenllaw.
Bydd y Cynllun yn gweithredu fel map hirdymor ac yn sefydlu'r blociau adeiladu ar gyfer archwilio potensial AI mewn ffordd gyfrifol, foesegol a chydweithredol.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cyflawni'n gyflym ar AI.
Mae wedi:
o Lansio Parth Twf AI ar gyfer Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU.o Sefydlu Swyddfa AI i ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad ar drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus.
o Ffurfio'r Grŵp Cynghori Strategol annibynnol ar AI i gryfhau ein hecosystem ar draws sectorau.
o Buddsoddi mewn arloesi ym maes gwasanaethau cyhoeddus ac uwchsgilio'r gweithlu.
o Datblygu canllawiau moesegol ar gyfer defnyddio AI mewn gweithleoedd sector cyhoeddus trwy bartneriaeth gymdeithasol.
Mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru eisoes yn manteisio ar AI – o ddysgu wedi'i bersonoli mewn ysgolion, i awtomeiddio mewn llywodraeth leol, a chael diagnosis cyflymach yn y GIG.
Mae cynllun peilot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mewn partneriaeth â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), yn archwilio sut y gallai technoleg ysgrifennu AI leihau'r baich gweinyddol ar gyfer timau clinigol sy'n gweithio ym maes gwasanaethau niwroddatblygiadol plant.
Mae'r dechnoleg yn trawsgrifio ac yn crynhoi sgyrsiau clinigol, gan alluogi staff i dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar blant a theuluoedd, a llai o amser ar waith papur.
Mae adborth cynnar yn awgrymu y gallai fyrhau asesiadau a phrosesau adrodd, gan gynnal ansawdd a chywirdeb, gan helpu timau i ymateb yn gyflymach i deuluoedd sy'n aros am gymorth.
Dywedodd Kath Bowen, Arweinydd Gweithredol/Proffesiynau Perthynol i Iechyd ar gyfer y Gwasanaeth Asesu Niwroamrywiaeth Pediatrig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae technoleg ysgrifennu AI wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr i'n gwasanaeth. Mae'n arbed oriau i staff bob wythnos, gan ein galluogi i weld mwy o blant a chanolbwyntio ar sgyrsiau ystyrlon gyda theuluoedd. Mae staff yn teimlo'n fwy presennol a chysylltiedig, ac mae teuluoedd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r adroddiadau, gan nodi eu cywirdeb a pha mor dda maen nhw'n adlewyrchu eu plentyn.”
“Mae'r cynllun peilot hwn yn dangos sut y gall AI wella cysylltiad rhwng pobl, a'n helpu i ddarparu gofal gwell, mwy ymatebol.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:“Mae'r Cynllun AI i Gymru yn dangos ein huchelgais i fanteisio ar y cyfleoedd enfawr y mae AI yn eu cynnig i'n helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol, datgloi twf economaidd cynhwysol ac arfogi pobl â'r sgiliau i ffynnu mewn byd modern.
“Rydym yn ymwybodol bod yn rhaid i ni lywio'r cyfleoedd hyn yn ofalus, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy'n dryloyw, yn gynhwysol ac yn ddiogel.
“Yr wythnos diwethaf, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, fe wnaethom gyhoeddi'r Parth Twf AI cyntaf i Gymru a fydd yn sicrhau y gall rhanbarth y Gogledd elwa ar y manteision economaidd a gynigir gan AI.
“Mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn hollbwysig – a byddwn yn ei hennill drwy bartneriaethau cryf, goruchwyliaeth gan bobl, gwaith teg, ac ymrwymiad ar y cyd i arloesi’n foesegol. Gyda'n gilydd, gallwn lunio dyfodol lle mae AI yn gweithio i bawb.”
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: “Mae gan AI y potensial i drawsnewid sut mae'r GIG yn gweithio yng Nghymru. Gall technoleg ysgrifennu AI roi hwb i'n hymdrechion i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol drwy wneud y broses asesu yn gyflymach ac yn fwy effeithlon. Gall hefyd wella gofal cleifion a'u profiadau o driniaeth, gan ei fod yn caniatáu i staff dreulio mwy o amser gyda phlant a'u teuluoedd.”
Nodiadau i olygyddion
Joanna Goodwin, Head of User Centred Design at CDPS said:“It’s exciting to see how these technologies can strengthen human connection and put people at the heart of the service. The pilot has exceeded our expectations, demonstrating the potential for meaningful, scalable change.
“While early data suggests we could reduce waiting lists and deliver services more efficiently, it’s vital to remember that this work is ultimately about improving experiences for the families and children who rely on us.”