Grantiau newydd i helpu pobl i ddod yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol
New grants to help people become confident in using digital technology
Bydd pobl ledled Cymru yn elwa o grant newydd gyda'r nod o helpu pawb i ennill y sgiliau digidol sylfaenol, yr hyder a'r mynediad sydd eu hangen i gymryd rhan lawn yn y byd digidol.
Bydd Grant Cynhwysiant Digidol Cymru newydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau sy'n helpu pobl i oresgyn rhwystrau i ddefnyddio technoleg ddigidol drwy wella sgiliau digidol sylfaenol, magu hyder, a sicrhau bod ganddynt yr offer a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar lefel leol.
Gyda llawer o wasanaethau hanfodol bellach ar gael ar-lein yn bennaf, gall y rhai heb hyder digidol wynebu anfanteision yn ariannol, yn gymdeithasol ac yn eu lles cyffredinol. Nod y grant hwn yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu mwynhau manteision technoleg digidol os ydynt yn dewis.
Mae'r grant wedi ei groesawu gan sefydliadau sy'n cefnogi pobl sy'n aml wedi'u heithrio o'r byd digidol. Dywedodd Rheolwr Arloesedd Digidol yr Ymddiriedolaeth Arloesol, Ashley Bale: "Mae hwn yn gyfle gwych i sefydliadau ledled Cymru wneud cais am gyllid a all wirioneddol drawsnewid bywydau. Bydd y grant yn helpu pobl nid yn unig i fodloni'r Isafswm Safonau Byw Digidol, ond i gyrraedd ymhell y tu hwnt iddynt.
"Bydd y cyllid hwn yn grymuso pobl i gymryd rheolaeth o'u bywydau, chwalu rhwystrau i annibyniaeth, lles, a chyfleoedd. Mae cael eich cynnwys yn ddigidol yn agor drysau i wasanaethau hanfodol, cyflogaeth a chysylltiad.
"Fel sefydliad ac eiriolwr dros gynhwysiant digidol, rydym yn hynod ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Cymru am wneud y rhaglen hanfodol hon yn bosibl.".
Mae'r grantiau'n agored i bob sector, gan gynnwys grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, sefydliadau'r trydydd sector, grwpiau ffydd, a chyrff cyhoeddus a phreifat. Mae dau fath o gyllid ar gael:
- Mae'r Grant Craidd yn cefnogi prosiectau hirdymor yn seiliedig ar anghenion lleol am hyd at dair blynedd, gan helpu sefydliadau i wneud cynhwysiant digidol yn rhan o fywyd bob dydd. Bydd tua £390,000 ar gael bob blwyddyn, gyda dyfarniadau arferol o tua £43,500.
- Mae'r Grant Arloesedd yn ariannu prosiectau tymor byr sy'n profi dulliau newydd a chreadigol o helpu pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol, gyda £60,000 ar gael a dyfarniadau nodweddiadol o tua £15,000.
Mae'r grant yn adeiladu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddysgu drwy raglenni cynhwysiant digidol Cymru gyfan blaenorol a'r gwaith blaenllaw ar isafswm safon byw digidol.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Mae bod yn hyderus yn ddigidol yn chwarae rhan bwysig ym mywyd bob dydd, o ganiatáu i bobl ddefnyddio gwasanaethau i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Rwy'n falch o lansio'r grantiau newydd hyn, a fydd yn helpu i sicrhau y gall pawb yng Nghymru elwa o fod yn hyderus yn ddigidol os byddant yn dewis. Rydym yn croesawu yn arbennig geisiadau gan brosiectau sy'n creu partneriaethau, annog cydweithredu, neu ymgorffori cynhwysiant digidol mewn gwasanaethau newydd a phresennol."
Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal rhwng 17 Tachwedd 2025 a 09 Chwefror 2026. Mae canllawiau llawn a manylion cais ar gael yma.