Pleidlais y Senedd yn rhoi iechyd wrth wraidd penderfyniadau cyhoeddus yng Nghymru
Senedd vote puts health at the heart of public decision-making in Wales
Yn dilyn pleidlais a gynhaliwyd yn y Senedd heno (dydd Mawrth 18 Tachwedd), bydd cyrff cyhoeddus yn cael eu rhoi o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried goblygiadau iechyd hirdymor eu penderfyniadau.
O 2027 ymlaen, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol, sefydliadau'r GIG, parciau cenedlaethol a sefydliadau diwylliannol fel yr Amgueddfa Genedlaethol a'r Llyfrgell Genedlaethol gynnal asesiadau o'r effaith ar iechyd wrth wneud penderfyniadau o natur strategol.
Bydd y rheoliadau blaengar, sy'n cyflwyno asesiadau o'r effaith ar iechyd ar gyfer ystod eang o gyrff cyhoeddus, yn helpu i leihau'r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng rhannau mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig Cymru.
Bydd asesiadau o'r effaith ar iechyd yn sicrhau bod effeithiau ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn cael eu hystyried yn gyson pan fydd sefydliadau'r sector cyhoeddus yn datblygu polisïau neu brosiectau newydd.
Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau a wneir mewn meysydd sy'n hysbys am eu heffaith ar ganlyniadau iechyd hirdymor megis tai, trafnidiaeth, addysg, cyflogaeth, diwylliant a'r amgylchedd.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:
“Nid yw hyn yn golygu gwneud pethau'n fwy cymhleth, ond mae'n golygu ymgorffori iechyd ein poblogaeth yn sylfeini ein gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae hwn yn gam gweithredu pwysig arall rydyn ni'n ei gymryd i helpu i roi diwedd ar anghydraddoldebau iechyd parhaus a styfnig, sy'n dal i effeithio ar ormod o gymunedau yng Nghymru.
“Byddan nhw'n cyd-fynd â chynlluniau eraill sydd wedi'u hanelu at gau'r bwlch hwnnw, gan gynnwys dod yn Genedl Marmot; brecwast am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd; ein rhaglen brechu plant; a gofal plant wedi'i ariannu i blant rhwng dwy a phedair oed.”
Bydd y rheoliadau yn dod i rym yn 2027, gan roi amser i gyrff cyhoeddus baratoi ar eu cyfer. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu canllawiau a hyfforddiant ar gynnal asesiadau o'r effaith ar iechyd.