Y Prif Weinidog yn canmol ‘buddugoliaeth ddwbl i Gymru’
First Minister hails ‘double win for Wales’
Mae’r newyddion am fuddsoddiad enfawr mewn adweithyddion niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn, a Pharth Twf Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Gogledd Cymru yn “fuddugoliaeth ddwbl i Gymru” yn ôl y Prif Weinidog Eluned Morgan.
Dywedodd y Prif Weinidog fod y ddau ddatblygiad yn ddatganiadau pwysig am ddyfodol economi Gogledd Cymru, ac yn dystiolaeth o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio’n agos i gyflawni buddsoddiad fydd yn creu effaith am genedlaethau.
Dywedodd:
“Mae hwn yn gyhoeddiad enfawr i Ogledd Cymru, a fydd yn creu miloedd o swyddi o ansawdd uchel ac yn sicrhau manteision eang i’r economi leol. Ers i mi ddod yn Brif Weinidog, rwyf wedi bod yn pwyso ar bob cyfle i wireddu buddion anhygoel Wylfa fel safle ar gyfer niwclear newydd.
“Mae Deallusrwydd Artiffisial yn cynnig cyfleoedd mawr i economi Cymru, a dyma pam mae cael Parth Twf yng Ngogledd Cymru mor hanfodol i’n huchelgeisiau ni fel Llywodraeth. Bydd yn ein helpu i sbarduno buddsoddiad yn y sector hwn yn y dyfodol i wneud yn siŵr bod Cymru ar y blaen o ran y dechnoleg drawsnewidiol hon.
“Yn fy holl drafodaethau gyda’r Prif Weinidog, y Canghellor a Gweinidogion eraill y DU, rwyf wedi cyflwyno ceisiadau clir ac elfennau i’w cyflawni ar gyfer Cymru. Heddiw, mae dau o fy mhrif flaenoriaethau i’n cael eu cyflawni gyda’i gilydd – buddugoliaeth ddwbl i Gymru.”
Bydd y Prif Weinidog yn Llangefni heddiw gyda’r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill i gyhoeddi’r ddau brosiect yn ffurfiol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn ymuno â hi.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae’r buddsoddiad yn Wylfa yn hwb enfawr i economi Gogledd Cymru. Bydd yn creu miloedd o swyddi medrus iawn, gyda chyflogau da, ar y safle ac yn yr economi ehangach. Yn ei anterth bydd 3,050 o bobl yn gweithio ar y safle i ddefnyddio a chomisiynu’r tri adweithydd modiwlaidd bach. Bydd pob un o’r adweithyddion hynny’n cynhyrchu 470MW o ynni carbon isel – digon i bweru miliwn o gartrefi am 60 mlynedd.
“Bydd y Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial yn gosod Gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio i’r eithaf ar y chwyldro technolegol.”