Nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn cyrraedd 100
Number of employee-owned businesses in Wales hits 100
Mae nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru wedi cyrraedd 100 – sy'n cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r model perchnogaeth gan weithwyr a'r manteision y mae'n ei ddarparu i'r economi a chymunedau ledled Cymru.
Mae nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru lawer yn uwch bellach na'r nifer yr ymrwymwyd iddo yn y Rhaglen Lywodraethu i ddyblu'r nifer yng Nghymru a chyrraedd 74 erbyn 2026.
Mae gwasanaeth Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor arbenigol i gefnogi pryniannau gan weithwyr, ac mae Cwmpas yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo manteision perchnogaeth gan weithwyr yng Nghymru.
Daeth BIC Innovation o Ynys Môn yn eiddo i weithwyr trwy Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr (EOT) gyda chefnogaeth Cwmpas yn gynharach eleni.
Mae'r cwmni ymgynghori, sy'n arbenigo mewn arloesi a thwf ac sydd hefyd â swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi trosglwyddo i ddechrau i fod yn fusnes sy'n eiddo i weithwyr trwy gynllun perchnogaeth cyfranddaliadau yn 2018. Mae'r EOT bellach yn rhedeg y busnes er budd ei weithwyr, gan roi llais cryfach iddynt yn ei gyfeiriad at y dyfodol.
Dywedodd Huw Watkins, cyfarwyddwr a sefydlydd BIC Innovation:
"Er bod nifer o lwybrau ar agor i ni, creu EOT oedd yr un a oedd yn diogelu ein hanes a'n gwerthoedd orau. Mae'n adlewyrchu pwy ydym ni: busnes pobl, wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth, cydweithredu, a phartneriaethau hirdymor.
"Mae'r symudiad hwn yn sicrhau parhad arweinyddiaeth wrth agor y drws i gyfleoedd newydd i'r bobl sy'n gwneud BIC yr hyn ydyw."
I ddathlu cyrraedd 100 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru, cynhaliwyd digwyddiad yn siop John Lewis yng Nghaerdydd neithiwr (dydd Mawrth 11eg). John Lewis Partnership yw'r busnes mwyaf sy'n eiddo i weithwyr yn y DU, gyda thua 74,000 o weithwyr yn gweithredu fel cyd-berchnogion y busnes.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Mae tystiolaeth yn dangos bod busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy gwydn. Maent hefyd wedi'u gwreiddio yn eu hardaloedd a'u rhanbarthau lleol, gan sicrhau swyddi o ansawdd da ar gyfer y tymor hwy o fewn cymunedau.
"Un o ymrwymiadau allweddol y llywodraeth hon yw cefnogi perchnogaeth gan weithwyr, gan ddarparu cefnogaeth sylweddol i weithwyr brynu a sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru yn parhau i fod wedi'u gwreiddio mewn economi gryfach yng Nghymru.
"Rwy'n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y targed o 100 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru. Mae graddfa'r sector wedi tyfu'n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda'r potensial i lawer mwy o fusnesau drosglwyddo i berchnogaeth o’r fath a ffynnu."
Dywedodd Rheolwr Prosiect Cwmpas, Nicola Mehegan:
"Mae cyrraedd 100 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn garreg filltir ryfeddol sy'n dangos cryfder ac uchelgais ein cymuned fusnes.
"Mae perchnogaeth gweithwyr yn cryfhau economi Cymru – cadw busnesau a swyddi wedi'u gwreiddio mewn cymunedau lleol, rhoi hwb i gynhyrchiant a sicrhau bod cyfoeth yn aros yng Nghymru. Mae'r cynnydd hwn wedi'i wneud yn bosibl gan ymrwymiad clir Llywodraeth Cymru i berchnogaeth gan weithwyr yn ei Rhaglen Lywodraethu.
"Gyda'n gilydd, rydym yn creu cwmnïau mwy gwydn, arloesol sy'n diogelu gwaddol perchnogion busnes ac yn adeiladu economi gryfach, decach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."