Datgelu gweledigaeth newydd ar gyfer gofal nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru
A new vision for nursing and midwifery care in Wales unveiled
Heddiw, mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka, wedi cyhoeddi ei gweledigaeth strategol pum mlynedd newydd sy'n nodi sut y bydd y proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth yn arwain trawsnewid mewn gofal iechyd.
Bydd cleifion ledled Cymru yn elwa o ofal mwy tosturiol, sy'n canolbwyntio ar y person ac yn cael ei ddarparu gan weithlu nyrsio a bydwreigiaeth sydd wedi'i rymuso.
Datblygwyd y weledigaeth trwy weithdai, cyfweliadau ac arolygon digidol a oedd yn cynnwys miloedd o staff rheng flaen a defnyddwyr gwasanaeth.
Wrth lansio'r weledigaeth yng Nghynhadledd y Prif Swyddog Nyrsio yng Nghaerdydd, dywedodd Sue Tranka,
“Wedi'i siapio gan leisiau nyrsys, bydwragedd a chleifion, mae fy ngweledigaeth yn nodi sut y bydd y proffesiynau yn arwain, yn arloesi ac yn ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth ar bob lefel o'r system iechyd a gofal.
“Fy nod yw uno'r proffesiynau, ysbrydoli newid, ac adeiladu dyfodol lle mae’r gofal yn eithriadol, cymunedau'n ffynnu, a phobl a'r blaned yn mynd o nerth i nerth.
“Trwy ymrwymo i'r weledigaeth hon, bydd y proffesiynau yn arwain trawsnewid.
“Gyda'n gilydd, byddwn yn creu dyfodol lle mae’r gofal yn gyson rhagorol, cymunedau'n ffynnu, a Chymru'n cael ei chydnabod yn fyd-eang am ei harweinyddiaeth ac effaith ym maes nyrsio a bydwreigiaeth.”
Mae'r weledigaeth yn canolbwyntio ar chwe thema rhyng-gysylltiedig. Mae'r rhain yn cynnwys creu gweithlu sy’n cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso, cryfhau arweinyddiaeth broffesiynol ar bob lefel, ac ymgorffori ymchwil a thystiolaeth mewn ymarfer beunyddiol.
Yn y gynhadledd, fe wnaeth y Prif Swyddog Nyrsio gydnabod cyfraniadau llond llaw o aelodau eithriadol o'r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru. Rhoddir Gwobr Rhagoriaeth y Prif Swyddog Nyrsio i nyrsys a bydwragedd ar bob lefel sy'n mynd y tu hwnt i'w rolau bob dydd i ddarparu gofal, arweinyddiaeth ac ysbrydoliaeth rhagorol.
Mae'r rhai sy'n derbyn y wobr – Ann Yates, arbenigwraig nyrsio'r bledren a'r coluddyn yng Nghaerdydd, Linda Edmunds, arbenigwraig gofal cardiaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Marianne Jenkins, arbenigwraig gofal brys o Gaerdydd, Hannah Russon arweinydd nyrsio sydd wedi bod yn allweddol wrth sefydlu Ysgol Oncoleg Felindre ac Angharad Hanbury nyrs arweiniol mewn Radioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – i gyd yn ymgorffori’r gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus, tosturi ac arloesedd fel llawer yn y proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth.