Sain Ffagan i gynnal dathliad byrlymus o dreftadaeth fyw Cymru
St Fagans to host vibrant celebration of Wales' living heritage
Bydd digwyddiad am ddim yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol (TDdA) yn cael ei gynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ddydd Iau 20 Tachwedd.
Bydd y digwyddiad - a drefnir gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn lansio galwad ledled y DU i ymarferwyr TDdA - yn dod â sefydliadau diwylliannol, grwpiau cymunedol ac ymarferwyr treftadaeth ynghyd i ddathlu'r traddodiadau byw sydd wedi'u hymgorffori mewn cymunedau ledled Cymru.
Bydd y dathliad undydd yn arddangos tapestri cyfoethog o dreftadaeth fyw, yn amrywio o grefftau a sgiliau traddodiadol i fynegiannau diwylliannol cyfoes.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys ystod amrywiol o weithgareddau trwy gydol y dydd. Bydd crefftwyr traddodiadol, gan gynnwys seiri maen, seiri coed ac eraill yn arddangos sgiliau treftadaeth yn Y Gweithdy. Yn yr Atriwm, bydd stondinwyr yn cynnwys y Ganolfan Gyryglau Genedlaethol a fydd yn arddangos amrywiaeth o gyryglau traddodiadol Cymru.
Mae uchafbwyntiau o ran y perfformiadau yn cynnwys cerddoriaeth a dawns o Gymru, adrodd straeon, dawns llew Tsieineaidd, Côr Meibion Rhisga, QWERIN, cerddwyr stilt Danceblast, a Chôr Ptasie Radio Cymru. Bydd catgorn eiconig Cymru, sef corn siâp S metelaidd anferth yn seiliedig ar yr hyn a ddefnyddiwyd gan y Celtiaid hynafol wrth iddynt fynd i'r gad, hefyd yn cael ei arddangos ac ar waith.
Ar yr un pryd, bydd cyfres o sgyrsiau yn y ddarlithfa yn archwilio treftadaeth fyw o sawl persbectif:
- Pwysigrwydd treftadaeth fyw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru
- Sut mae treftadaeth fyw yn ymddangos mewn cymunedau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol
- Mynegi treftadaeth fyw drwy'r celfyddydau a sgiliau treftadaeth
Mae'r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael yn y ddarlithfa.
Nodiadau i olygyddion
Ddim i'w gyhoeddi na'i ddarlledu ***
Bydd dau gyfle i'r cyfryngau sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad hwn:
Treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol Cymru – y gorffennol, y presennol a'r dyfodol
Mae treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn amrywio o draddodiadau ac arferion, i wybodaeth, sgiliau a mynegiannau diwylliannol y mae cymunedau yn eu cydnabod fel rhan o'u hunaniaeth. Yn wahanol i dreftadaeth ffisegol, mae'n byw trwy bobl a'u harferion ac yn esblygu'n gyson.
Cadarnhaodd y DU Gonfensiwn UNESCO ar dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol (TDdA) y llynedd ac mae Cymru bellach yn gweithio gyda llywodraethau datganoledig ledled y DU a chyda'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a fydd yn lansio galwad am ymarferwyr TDdA cyn bo hir mewn ymgais i fapio arferion TDdA. Bydd rhestr benodol i Gymru, gyda'r holl gynnwys yn cael ei awgrymu a'i gyflwyno i'w gynnwys gan gymunedau. Bydd y gwaith ‘mapio’ hwn a rhestr Cymru yn gyfle gwych i ddweud wrth eraill ledled y byd am yr ystod anhygoel o ymarfer TDdA sy'n digwydd yma yng Nghymru.
Bydd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, yn y digwyddiad ac ar gael i siarad am ddiwylliant Cymru a'i dyfodol. Cysylltwch ag economypressoffice@gov.wales os hoffech gynnal cyfweliad.
Bydd arddangoswyr, crefftwyr ac arweinwyr eraill ym maes TDdA ar gael ar y diwrnod hefyd.
Seiri Maen – Mae Cymru eich angen chi!
Mae llawer o sgiliau crefft traddodiadol, gan gynnwys gwaith seiri maen, mewn perygl o gael eu colli wrth i ymarferwyr profiadol ymddeol a llai o bobl ifanc ddysgu'r crefftau hyn. Mae hyn yn gwneud cadwraeth ac arddangos y sgiliau hyn yn arbennig o bwysig.
Er mwyn helpu i atgyfnerthu'r grefft hon, mae Cadw ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer 3 saer maen dan hyfforddiant, ac yn y digwyddiad treftadaeth fyw, bydd seiri maen presennol Cadw yn arddangos eu sgiliau i ddangos y technegau traddodiadol pwysig hyn i'r cyhoedd a helpu i sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cadw ar gyfer y dyfodol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ffilmio'r seiri maen, siarad â llefarydd ar ran Cadw neu'r Gweinidog Diwylliant, cysylltwch ag economypressoffice@gov.wales