Gwobrau i ddathlu deng mlynedd o gynllun gwyliau sydd wedi helpu miloedd o deuluoedd
Awards celebrate ten years of holiday scheme that has helped thousands of families
Eleni, mae'r Bwyd a Hwyl, sy'n rhan o Raglen Gwella Gwyliau’r Haf yn dathlu deng mlynedd o gefnogi degau o filoedd o deuluoedd yn ystod gwyliau'r haf.
I ddathlu'r dengmlwyddiant, cynhaliwyd seremoni wobrwyo dengmlwyddiant Bwyd a Hwyl yn gynharach y mis hwn i gydnabod a dathlu yr unigolion, ysgolion, byrddau iechyd a phartneriaethau sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y rhaglen.
Bob haf, mae'r rhaglen addysgol yn cael ei chynnal mewn ysgolion ac yn darparu prydau iach am ddim a gweithgareddau cyfoethogi i blant ledled Cymru, gan eu helpu i gadw'n iach ac yn egnïol yn ystod gwyliau'r ysgol a sicrhau hefyd nad ydynt yn colli cyswllt â'i gilydd. Dros y degawd diwethaf, mae'r rhaglen wedi darparu lle i dros 800,000 o blant ac mae bellach yn gweithredu ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol. Dros yr haf eleni roedd dros 300 o ysgolion yn cynnig gweithgareddau Bwyd a Hwyl ac fe wnaeth 15,000 o ddysgwyr elwa ar hynny
Ar y dechrau, cynllun peilot oedd Bwyd a Hwyl gan Gyngor Caerdydd, Ers hynny mae wedi mynd o nerth i nerth, ac mae bellach yn fenter genedlaethol, sy'n cael ei chydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, a gyflwynodd wobrau i'r enillwyr:
"Dros y degawd diwethaf mae degau o filoedd o deuluoedd wedi cael help gan y rhaglen 'Bwyd a Hwyl'.
"Er bod cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi cefnogi'r fenter, y staff a'r gwirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi sicrhau llwyddiant y rhaglen. Maent wedi ffurfio partneriaethau gwych ag amrywiaeth o sefydliadau i ddarparu ystod amrywiol o gyfleoedd a gweithgareddau i bobl ifanc eu mwynhau, gan ddarparu sgiliau maeth a phrydau iach.
"Mae gwerth ein buddsoddiad yn fwy nag unrhyw swm o arian. Ni ellir rhoi pris ar helpu teuluoedd a dysgwyr i fwynhau gweithgareddau hwyliog a dysgu am faeth, bod gyda ffrindiau a chael bwyd blasus.
"Rwy'n ddiolchgar i CLlLC am eu gwaith parhaus yn cydlynu'r rhaglen, ac roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r seremoni wobrwyo a'r dathlu ar y diwrnod, sy'n talu teyrnged i'r bobl sydd wedi cyflawni rhywbeth mor gadarnhaol wrth gefnogi plant a theuluoedd ledled Cymru.
"Llongyfarchiadau i bawb a enwebwyd ac i'r holl enillwyr."
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, llefarydd CLlLC dros addysg:
"Mae Bwyd a Hwyl yn profi beth y gellir ei gyflawni pan fydd cynghorau, ysgolion a phartneriaid yn cydweithio i gyrraedd un nod. Am ddeng mlynedd, mae'r rhaglen hon wedi cefnogi teuluoedd, cryfhau cymunedau, a rhoi cyfle i blant fwynhau hafau iach a hapus.
"Mae'r gwobrau yn ffordd wych o ddathlu angerdd ac ymrwymiad pawb sy'n cymryd rhan, yn athrawon a staff arlwyo a hyfforddwyr chwaraeon a gwirfoddolwyr. Mae pawb yn helpu i wneud y cynllun hwn yn ganolbwynt cofiadwy i'r haf i gymaint o bobl ledled Cymru."
Enillwyr y gwobrau oedd
- Cydlynydd y Cyngor – Paul Williams, Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot
- Gwobr Cydlynydd Cynllun – Sabrina Amor, Ysgol Gynradd Herbertt Thompson
- Gwobr Staff y Cynllun - Luke Cross Ysgol Cwm Brombil
- Gwobr Arlwyo – Sarah Lever a Caroline Clatworthy, Bridgend Catering
- Gwobr Gwirfoddolwyr – Harri a Sion Colthard, Ysgol Calon y Cymoedd
- Gwobr Bwrdd Iechyd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Gwobrau Hyfforddwyr Chwaraeon – MonLife
- Gwobr Gweithio gyda'n Gilydd – Ysgol Gynradd Gymunedol Neyland
- Gwobr Effaith ar Ysgol – Gemma Ness Ysgol Awel y Môr
- Gwobr Cyfraniad Eithriadol - Angharad Williams Ysgol y Gogarth
- Gwobr Dewis Plant – Justin Johnson Torfaen Play