Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates, yn galw am wrthdroi penderfyniadau ar ddau wasanaeth rheilffordd allweddol yng Ngogledd Cymru a'r Gororau
Welsh Transport Secretary, Ken Skates, calls for decisions on two key North Wales and Border rail services to be reversed.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi mynegi ei 'bryder dwfn' am benderfyniad a wnaed gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) i leihau dau wasanaeth Avanti sy'n effeithio ar Ogledd Cymru a'r goroau yn ei newid amserlen ym mis Rhagfyr.
Mewn llythyr at Brif Weithredwr yr ORR, dywedodd Mr Skates:
"Mae lleihau’r gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol Avanti rhwng Caer ac Euston yn Llunain a'r gwasanaeth dydd Sul rhwng Caergybi ac Euston yn siomedig iawn i deithwyr yng Ngogledd Cymru. Mae cysylltedd dibynadwy yn hanfodol i Ogledd Cymru – nid yn unig i drigolion a busnesau ond hefyd ar gyfer cynnal twf economaidd a denu buddsoddiad.
"Bydd dileu'r gwasanaeth uniongyrchol 19:32 o Gaer yn effeithio'n sylweddol ar amseroedd teithio a chyfleustra, gan greu rhwystrau i gymudwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd a chosb cyfnewidfa ddwbl i deithwyr o Ogledd Cymru.
"Mae perygl i'r newid hwn danseilio cystadleurwydd rhanbarthol ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd trawsffiniol. Mae'r gwasanaeth o Gaergybi i Euston yn gyswllt hanfodol sy'n cefnogi'r economi ymwelwyr yng Ngogledd Cymru."
Aeth ymlaen i annog yr ORR i ailystyried eu penderfyniad a gweithio'n agos gyda gweithredwyr i gynnal y gwasanaethau hyn i sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau i fod wedi'i gysylltu'n dda â rhwydwaith y DU.