English icon English
Launch of women's health materials for schools with Cardiff and Vale Youth Board and Minister for mental health and wellbeing-2

Pobl ifanc i gael gwybodaeth newydd am iechyd menywod

Young people to receive new information about women’s health

Bydd deunyddiau addysg newydd ar gael i'n holl ddisgyblion ysgol er mwyn iddynt allu dysgu am y cyflyrau iechyd cyffredin sy'n gallu effeithio ar fenywod.

Mae'r adnoddau, a gafodd eu lansio'r wythnos hon gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, yn cwmpasu pedwar maes allweddol – iechyd mislif, endometriosis, iechyd y pelfis, a'r menopos.

Bu'r Rhwydwaith Iechyd Menywod yn gweithio gyda nyrsys ysgol a dysgwyr o bob rhan o Gymru i ddatblygu'r deunyddiau hyn. Mae merched a bechgyn wedi cyfrannu at y gwaith datblygu er mwyn sicrhau bod yr adnoddau'n adlewyrchu'r wybodaeth sy’n berthnasol i bobl ifanc.

Bydd ysgolion uwchradd yn gallu addasu'r adnoddau i gynnwys eu brandio eu hunain, ac mae'r deunyddiau'n gweithio ar draws gwahanol blatfformau gan gynnwys e-byst, taflenni, posteri, cyfryngau cymdeithasol, a chodau QR.

Y nod yw lleihau unrhyw stigma sy'n gysylltiedig â'r mislif; helpu pobl ifanc i wybod pryd i geisio cymorth meddygol; a chodi ymwybyddiaeth o gyflyrau fel endometriosis. Mae'r adnoddau hefyd yn darparu gwybodaeth am iechyd y pelfis a'r menopos i wella dealltwriaeth o faterion iechyd a allai godi yn ystod bywydau menywod.

Roedd aelodau o banel ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a helpodd i greu'r deunyddiau, yn bresennol yn y digwyddiad lansio yn yr Ysbyty Plant yng Nghaerdydd.

Mae Athika Ahmed, 23 oed o Gaerdydd, wedi bod yn rhan o'r bwrdd ieuenctid ers yn 16 oed.

Dywedodd hi:

"Rydyn ni wedi cael nyrsys ysgol yn dod mewn i siarad â ni am y deunyddiau maen nhw wedi bod yn gweithio arnynt i'w defnyddio mewn ysgolion. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu eu cyfeirio tuag at y math o wybodaeth rydyn ni'n meddwl fyddai'n fuddiol ac awgrymu syniadau am sut y dylid eu dysgu.

"Mae'n wych ein bod wedi bod yn rhan o'r broses o addysgu am iechyd menywod yn y dyfodol."

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

"Bydd yr adnoddau newydd hyn yn helpu i gefnogi iechyd a llesiant pobl ifanc ledled Cymru. Trwy weithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc i ddatblygu'r deunyddiau, rydyn ni wedi gallu sicrhau bod y deunyddiau'n rhoi sylw i'w cwestiynau a'u pryderon.

"Dw i'n ddiolchgar i'r holl bobl ifanc sydd wedi cyfrannu eu dealltwriaeth a'u profiadau er mwyn sicrhau bod y deunyddiau'n berthnasol ac yn hawdd eu deall.

"Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau, a gwella canlyniadau iechyd i fenywod a merched ledled y wlad."

Mae'r adnoddau hefyd yn cynnwys dolenni at wefannau dibynadwy fel Bloody Brilliant ac Endometriosis Cymru lle mae rhagor o wybodaeth ar gael.