Newyddion
Canfuwyd 3966 eitem, yn dangos tudalen 13 o 331
£9m i uwchraddio uned ddiwydiannol Hirwaun a chreu swyddi newydd
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi hyd at £9.25 miliwn i brynu ac uwchraddio uned ddiwydiannol ym Mlaenau'r Cymoedd, mewn ymgais i ddenu busnesau gweithgynhyrchu o ansawdd uchel a chreu swyddi newydd yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Cymeradwyo Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru i fynd i'r afael â sbwriel a hybu ailddefnyddio
Mae'r Senedd wedi pleidleisio o blaid rheoliadau newydd a fydd yn sefydlu Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru o fis Hydref 2027 ymlaen.
£34.3m ar gyfer hwb iechyd a llesiant newydd i Gaerdydd
Bydd hwb iechyd a llesiant newydd gwerth £34m yn cael ei adeiladu yng Nghaerdydd, a fydd yn dod â gwasanaethau meddygon teulu, gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau i deuluoedd i gyd at ei gilydd.
Cymru yn buddsoddi £655,000 i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr tai
Bydd gweithwyr ledled Cymru yn ennill sgiliau newydd ym maes tai, adeiladu ac ôl-osod, wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £655,000 i fynd i'r afael â'r prinder gweithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi yn y sector.
Cymorth ariannol ychwanegol i hosbisau
Bydd hosbisau ledled Cymru yn cael rhagor o gymorth ariannol yn sgil cytuno ar ganllawiau comisiynu cenedlaethol nodedig.
Cyllid ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd meddwl a lles ar gyfer pob ysgol
Heddiw (24 Mawrth) cyhoeddwyd bod £1.6m o gyllid newydd ar gael i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles ychwanegol mewn ysgolion dros y tair blynedd nesaf.
Sganwyr ac offer pelydr-X newydd i gyflymu’r broses o roi diagnosis i bobl ledled Cymru
Bydd cleifion ym mhob cwr o Gymru yn elwa ar gael diagnosis sy’n fwy cywir, a hynny yn gyflymach, wrth i naw ysbyty dderbyn offer sganio a phelydr-X newydd.
Cynghorau Cymru i dderbyn hwb o £50m i gyllid cyfalaf
Bydd cynghorau Cymru yn elwa o £50m o gyllid cyfalaf ychwanegol y flwyddyn ariannol hon, gan eu helpu i reoli costau cynyddol a buddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol.
Buddsoddiad newydd mewn mannau diogel i oroeswyr cam-driniaeth
Bydd mwy o oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gallu cael help mewn mannau diogel a chroesawgar ledled Cymru, diolch i £3.1 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Gofodau bob dydd yn allweddol i ffyniant y Gymraeg
Dylai'r Gymraeg fod yn rhan naturiol o fywyd bob dydd ledled Cymru – mewn gweithleoedd, clybiau chwaraeon, ar-lein ac mewn cymunedau lleol – er mwyn i’r Gymraeg am ffynnu at y dyfodol.
Safonau newydd yn disgrifio’r hyn y mae gofal iechyd meddwl da yng Nghymru yn ei olygu
Bydd pobl yng Nghymru yn elwa ar safonau cliriach ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a hunan-niweidio ar draws y GIG a’r sector gofal cymdeithasol.
Offer newydd i ffermwyr Cymru adeiladu ffermydd gwydn a chynaliadwy: Cyhoeddi trosolwg o haenau opsiynol a chydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae rhagor o gymorth yn cael ei roi i ffermwyr Cymru i'w helpu i wneud busnesau eu ffermydd yn fwy gwydn a chynaliadwy. Mae'r cymorth hwnnw'n cael ei ddisgrifio yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS): Trosolwg o'r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw