English icon English
Hwyl 6

Croeso Cymru yn gwahodd y byd i deimlo'r ‘hwyl’ yn 2025

Visit Wales invites world to feel the 'hwyl' in 2025

Mae “Teimla'r hwyl. Gwlad, Gwlad” - ymgyrch ddiweddaraf Croeso Cymru - yn cychwyn yn swyddogol heddiw gyda galwad i ymwelwyr o bell ac agos i ddathlu a phrofi adegau llawen a hwyliog sy'n unigryw i Gymru.

Nod y cysyniad ‘hwyl’, sy'n rhan o Flwyddyn Croeso 2025, yw gwahaniaethu rhwng Cymru a chyrchfannau eraill mewn marchnad gystadleuol drwy ganolbwyntio ar ein hiaith ac ymdeimlad cryf o le.

Cafodd yr ymgyrch ei ffilmio mewn dros ddwsin o leoliadau ledled Cymru yn ystod Haf a Hydref 2024 mewn cydweithrediad â'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae'r lleoliadau'n amrywio o gyrchfannau arfordirol fel Dinbych-y-pysgod a bae'r Tri Chlogwyn ar Benrhyn Gŵyr, i ŵyl gerddoriaeth ym Merthyr Mawr, gêm gartref yn Wrecsam a hyd yn oed taith balŵn aer poeth uwchben castell godidog Rhaglan.

Mae Maxine Hughes, newyddiadurwaig sy'n adnabyddus ar gyfer 'Welcome to Wrexham', hefyd yn ymddangos fel rhan o'r ymgyrch i esbonio ‘hwyl’ a sut gall Cymru gynnig profiadau hwyliog di-ri.

Mae'r ymgyrch aml-blatfform yn defnyddio seiniau go iawn o bob cwr o Gymru yn hytrach na cherddoriaeth mewn tuedd sy'n dod i'r amlwg ar gyfer ymgyrchoedd ymgolli synhwyraidd sy'n rhoi cyfle i wylwyr nid yn unig weld cyrchfannau eiconig, ond hefyd i'w clywed a phrofi'r foment a dychmygu eu hunain yn yr union leoliad hwnnw.

Mae'r thema a'r ymgyrch hefyd yn hawdd i bartneriaid, cyrchfannau a busnesau twristiaeth mawr neu fach fanteisio arnynt a'u cefnogi.

Bydd sefydliadau partner hefyd yn rhannu eu profiadau o hwyl yn ystod y flwyddyn gan gynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam, Cadw, Trafnidiaeth Cymru, Llwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol, cyrchfannau twristiaeth rhanbarthol fel Croeso Sir Benfro ac awdurdodau parciau cenedlaethol fel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, sy'n gyfrifol am dwristiaeth, Rebecca Evans:

“Bydd 2025 yn dathlu'r pethau llawen sy'n ein gwneud ni'n unigryw Gymreig a dim ond yma yng Nghymru y gallwch eu profi. Rydym am rannu ein ‘croeso’ cynnes a'n ‘hwyl’ unigryw gyda'r byd a'u gwahodd nid yn unig i weld ond hefyd i deimlo, blasu a phrofi'r pethau ‘mae'n rhaid’ eu gwneud sydd ar gael gennym.

“Rydym hefyd yn falch iawn o fod yn hyrwyddo ein hiaith fendigedig drwy ddefnyddio gair Cymraeg am y tro cyntaf yn ein negeseuon cyfathrebu â chynulleidfaoedd byd-eang.

“Gall pawb ein helpu i fynd â hyd yn oed mwy o Gymru i'r byd yn 2025 drwy rannu'r ymgyrch a theimlo'r hwyl drostyn nhw eu hunain.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, Michael Williamson:

“Rydym yn falch o fod wedi cydweithio â Croeso Cymru fel rhan o'u hymgyrch “Blwyddyn Croeso”.

“Gall pawb fod yn sicr o gael Croeso cynnes i Wrecsam yn y STōK Cae Ras, stadiwm pêl-droed ryngwladol hynaf y byd, ac yn sicr mae digon o “Hwyl” wrth gefnogi Clwb Pêl-droed hynaf Cymru.

“Rydyn ni'n falch o'n treftadaeth, ein diwylliant, ein hanes a'n cymuned yn ein cornel o Ogledd Cymru ac rydyn ni'n parhau i estyn gwahoddiad i bawb a hoffai ymweld â Wrecsam a Gogledd Cymru i'w brofi drostynt eu hunain.”

Bydd Croeso Cymru hefyd yn gweithio'n agos gyda rhannau eraill o Lywodraeth Cymru yn ystod Blwyddyn Croeso i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y diwydiant twristiaeth, hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru i annog ymwelwyr i siopa'n lleol, a siarad yn rhagweithiol â myfyrwyr am ymuno â diwydiant twristiaeth a lletygarwch Cymru fel gyrfa.