English icon English
CMO at podium Frank Atherton

Syr Frank yn rhoi'r gorau iddi fel Prif Swyddog Meddygol Cymru ar ôl wyth mlynedd

Sir Frank calls time as Chief Medical Officer for Wales after eight years

Ar ôl wyth mlynedd a hanner yn y swydd, mae prif feddyg Cymru, Syr Frank Atherton, wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i fod yn Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru.

Mae Syr Frank wedi rhoi cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru ar yr holl faterion pwysig sy'n effeithio ar y sector iechyd yng Nghymru.

Yn ystod ei gyfnod yng Nghymru, ar ôl gadael ei swydd flaenorol yng Nghanada, chwaraeodd Syr Frank ran flaenllaw yn ymateb Cymru i'r pandemig Covid ac mae wedi cefnogi'r GIG drwy frigiadau o achosion ffliw a phwysau blynyddol y gaeaf.

Wrth siarad am benderfyniad Syr Frank i ymddiswyddo, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: “Mae Syr Frank wedi rhoi cyngor ac arweiniad amhrisiadwy, ac rwy'n hynod ddiolchgar iddo am hyn.

“Chwaraeodd ran flaenllaw yn ein hymateb i'r pandemig, gan sicrhau bod pobl ar hyd a lled Cymru yn cael gwybodaeth werthfawr am y feirws ac am sut i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel. Hoffwn ddymuno pob lwc iddo ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Judith Paget, prif weithredwr GIG Cymru:

“Mae Frank wedi dangos ei fod yn angerddol am wella canlyniadau iechyd i boblogaeth Cymru ac mae wedi arwain y ffordd o ran gwella ansawdd gofal iechyd.

“Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gydag ef a chael manteisio ar ei brofiad a'i ymrwymiad i ddulliau gweithredu newydd.

“Mae wedi chwarae rhan hanfodol o ran rhoi llais i Gymru o gwmpas y bwrdd gyda Phrif Swyddogion Meddygol eraill y DU, adrannau'r llywodraeth a sefydliadau.”

Mae Syr Frank wedi bod yn gyfrifol am arwain y proffesiwn meddygol yng Nghymru a datblygu ymchwil mewn iechyd a gofal.

Cyn gadael ei swydd, dywedodd Syr Frank:

“Mae wedi bod yn fraint gweithio fel Prif Swyddog Meddygol ac uchafbwynt fy ngyrfa broffesiynol oedd cael gwasanaethu pobl Cymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.

“Hoffwn ddiolch i'r holl weision sifil eraill hynny sydd wedi gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni, ac sydd wedi fy nghynorthwyo am bron i ddegawd yn y rôl hon.”

Bydd olynydd Frank Atherton yn cael ei gyhoeddi maes o law.