Galw am wyliadwriaeth yn dilyn achos o Glwy'r Traed a'r Genau yn yr Almaen
Calls for vigilance following Foot and Mouth Disease case in Germany
Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine, yn annog perchnogion da byw yng Nghymru i barhau i fod yn wyliadwrus yn dilyn achos diweddar o glwy'r traed a'r genau yn yr Almaen.
Dywedodd Prif Filfeddyg Cymru, Richard Irvine: "Rydym yn ymwybodol o achos unigol o glwy'r traed a'r genau yn yr Almaen ac rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i amddiffyn ein da byw yn dilyn y newyddion anffodus hwn. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus.
"Mae mewnforio gwartheg, moch a defaid o'r Almaen yn cael ei wahardd i amddiffyn ffermwyr a'u bywoliaeth. Ni fydd tystysgrifau mewnforio iechyd Prydain bellach yn cael eu rhoi ar gyfer anifeiliaid sy'n agored i glwy'r traed a'r genau, gan gynnwys anifeiliaid byw a chig ffres.
"Mae gennym gynlluniau wrth gefn cadarn ar waith i reoli risg ac amddiffyn ffermwyr a'n diogelwch bwyd, Mae hyn yn golygu defnyddio'r holl fesurau i gyfyngu ar y risg o ledaeniad y clefyd dinistriol hwn. Nid yw clefyd y traed a'r genau yn peri unrhyw risg i iechyd neu ddiogelwch bwyd.
"Rwyf hefyd am barhau i atgoffa ceidwaid da byw i gynnal y lefelau uchaf o fioddiogelwch a gwyliadwriaeth ac i brynu da byw a chynhyrchion cenhedlu o le cyfrifol a diogel i amddiffyn ein buchesi a diadellau a chadw clefydau anifeiliaid allan o Gymru. Os ydych chi 'n amau clefyd y traed a'r genau, mae'n hanfodol rhoi gwybod am hyn ar unwaith.”
Nodiadau ar gyfer golygyddion:
Mae Clefyd y Traed a'r Genau yn glefyd y gellir ei adnabod yn gyfreithiol ac mae'n rhaid ei adrodd. Os ydych yn amau clefyd hysbysadwy yn eich anifeiliaid, rhaid i chi roi gwybod amdano ar unwaith. Mae methu â gwneud hynny yn drosedd.
Gellir dod o hyd i wybodaeth a chyngor yn www.llyw.cymru/bioddiogelwch-canllawiau
Mae Clwy'r Traed a'r Genau yn glefyd firaol hysbysadwy. Mae'n cael effaith ar wartheg, defaid, moch, geifr ac anifeiliaid eraill â charnau hollt. Yn 2007 y cafwyd yr achos diwethaf o glwy'r traed a'r genau ym Mhrydain. Nid oes unrhyw achosion yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Os oes gennych unrhyw amheuon fod clwy'r traed a'r genau ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:
• gwres uchel:
• pothelli ar y croen rhwng y goes a'r carn
• pothelli o gwmpas y trwyn, tafod a gwefusau
• cloffni
• colli awydd am fwyd