Newyddion
Canfuwyd 3967 eitem, yn dangos tudalen 266 o 331
Y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r cyfyngiadau teithio diweddaraf i atal coronafeirws
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau na chaniateir teithio rhwng Cymru ac ardaloedd o gyfraddau coronafeirws uchel y DU o 6pm yfory (dydd Gwener 4 Rhagfyr).
Cyflwyno clinigau grŵp rhithwir ar draws GIG Cymru
Cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, y bydd clinigau grŵp rhithwir ar draws Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru yn cael eu hehangu i gynnwys ymgyngoriadau grŵp rhithiwr, neu glinigau grŵp rhithiwr, ar gyfer cleifion allanol ar draws gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal yn y gymuned.1
Y Rhaglen Trawsnewid Trefi i roi hwb ariannol i drefi a busnesau ar draws Cymru
Cyn dydd Sadwrn y Busnesau Bach [5 Rhagfyr], mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi hwb ariannol o £10m i ganol trefi, o dan y rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £90m, i gefnogi busnesau a chynyddu bywiogrwydd ac ymwelwyr mewn trefi ar draws Cymru.
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar ddod i ben ag allforion anifeiliaid byw i’w lladd a’u pesgi
Mae ymgynghoriad wyth wythnos, a lansiwyd heddiw yng Nghymru a Lloegr, yn gofyn am farn ar ddod i ben ag allforion anifeiliaid byw i’w lladd a’u pesgi pan fo’r teithiau’n dechrau neu’n croesi’r naill wlad neu’r llall.
Ymgyrch newydd yn annog pobl i ‘sicrhau eich bod yn gwybod am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau cyflogaeth’
A COVID-19 yn gefndir iddo, cyhoeddwyd ymgyrch newydd gan Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, a hynny er mwyn cryfhau dealltwriaeth pobl o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle.
Dechrau cyflwyno brechlyn COVID-19 ledled Cymru
Heddiw [dydd Mercher 2 Rhagfyr], mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi bod y brechlyn COVID-19 cyntaf wedi cael ei gymeradwyo ac y bydd y gwaith o’i gyflwyno ledled Cymru yn dechrau ymhen dyddiau.
Cynlluniau i hybu pwyntiau gwefru trydan yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth i sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y pwyntiau gwefru ceir trydan yng Nghymru.
Dyfodol cyffrous i AMRC Cymru wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd gyntaf
Mae Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru ym Mrychdyn yn dathlu bod ar agor ar gyfer busnes ers blwyddyn, ac mae'n edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous, meddai Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates heddiw.
‘Mae'r cynllun optio allan ar gyfer rhoi organau wedi trawsnewid bywydau – meddai'r Gweinidog iechyd bum mlynedd ers i'r cynllun gael ei gyflwyno
Mae bywydau wedi cael eu trawsnewid yn sgil cyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau yng Nghymru a dylem fod yn falch o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni' -meddai'r Gweinidog Vaughan Gething bum mlynedd yn union ers i'r cynllun gael ei gyflwyno.
£200,000 o gymorth ariannol i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer 2020-21
- Cronfa arloesi newydd i adfer sioeau rhanbarthol y flwyddyn nesaf
Cymorth £340m ar gyfer busnesau Cymru wrth i’r rheolau coronafeirws newydd gael eu cyhoeddi
Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi set o gyfyngiadau newydd wedi’u targedu ar gyfer y sectorau lletygarwch a hamdden yn ogystal â phecyn cymorth gwerth £340m.
Canllawiau newydd ar gyfer Ymweliadau ysbyty yn ystod pandemig y Coronafeirws
Caiff canllawiau diwygiedig newydd ar gyfer ymweld ag ysbytai GIG Cymru eu cyhoeddi ddydd Llun 30 Tachwedd 2020. Mae'r rhain yn disodli'r canllawiau a gyhoeddwyd gynt.