Newyddion
Canfuwyd 3803 eitem, yn dangos tudalen 261 o 317
Datganiad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford
Datganiad gan y Prif Weinidog - ynghylch Penalun
Y Gweinidog Cyllid yn dweud nad yw datganiad y Canghellor yn mynd yn ddigon pell
Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn dweud bod y mesurau cefnogi swyddi a gafodd eu hamlinellu gan y Canghellor heddiw yn ‘gam yn y cyfeiriad cywir’. Fodd bynnag, rhybuddiodd hefyd nad yw lefel y cymorth yn mynd yn ddigon pell i sicrhau incwm priodol i weithwyr.
Logos newydd ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod gwarchodedig yn cael eu datgelu
Mae logos newydd ar gyfer bwyd a diod sydd â statws Enw Bwyd Gwarchodedig o dan Gynllun yr UE yn cael eu datgelu heddiw.
Llywodraeth Cymru i ddod â masnachfraint y rheilffyrdd o dan reolaeth gyhoeddus
Yn wyneb y cwymp aruthrol a fu yn nifer y teithwyr ar y rheilffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dod â masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau o dan reolaeth gyhoeddus.
Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi £220m o gyllid i adnewyddu Ysbyty’r Tywysog Siarl
Heddiw (dydd Iau 22 Hydref), mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd £220m o gyllid yn cael ei roi i Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful.
£10 miliwn i gefnogi myfyrwyr prifysgol drwy’r pandemig
- Mwy o gymorth iechyd meddwl a chronfeydd caledi myfyrwyr
- Cymorth i fyfyrwyr sy’n hunanynysu
- Cymorth wedi'i dargedu ar gyfer myfyrwyr sy'n agored i niwed
Cynlluniau Metro’r Gogledd yn elwa ar ragor na £11m
Fel rhan o Fetro’r Gogledd, bydd dros £11m yn cael ei neilltuo ar gyfer cynlluniau ledled y rhanbarth i gefnogi ffyrdd cynaliadwy o deithio, i wneud y ffyrdd yn fwy diogel ac i leihau allyriadau carbon, cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates, heddiw.
Anogir goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol i geisio cymorth yn ystod y cyfnod o gloi mewn argyfwng
Heddiw, mewn apêl uniongyrchol ar drothwy’r cyfnod atal byr, gofynnodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, i ffrindiau a chymdogion gadw llygad am arwyddion o gam-drin domestig, ac anogodd ddioddefwyr a goroeswyr i geisio cymorth a dianc o'u cartrefi os oes angen.
£300m i fusnesau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn dyblu trydydd cam ei Chronfa Cadernid Economaidd i bron £300m er mwyn helpu busnesau sy’n dal i deimlo effeithiau Covid-19.
Llywodraeth Cymru yn lansio ei Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Mae Strategaeth newydd Cymru sy'n ymdrin â llifogydd ac erydu arfordirol yn nodi'r ffordd y byddwn yn helpu i leihau'r risgiau i gymunedau a busnesau ledled Cymru ac yn addasu i'r newid yn ein hinsawdd.
Cynllun i ddenu rhagor o feddygon teulu i’r Canolbarth a’r Gorllewin i barhau am ddwy flynedd arall
Heddiw, (ddydd Mawrth 20 Hydref) cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y bydd y cynllun llwyddiannus i ddenu meddygon teulu i’r Canolbarth a’r Gorllewin yn parhau.
Cronfa gwerth £1 filiwn i ofalwyr i nodi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus
Mae cronfa newydd gwerth dros £1m i helpu gofalwyr di-dâl i ymdopi â phwysau ariannol COVID-19 wedi’i chyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog Iechyd heddiw [Dydd Mawrth 20 Hydref].