Hwb ariannol mawr i deithio iach
Big funding boost for healthy travel
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu pecyn cyllido gwerth £55 miliwn i Gynghorau i annog pobl i deithio’n iachach ar gyfer teithiau lleol byr.
Mae’r hwb ariannol digynsaik yn fuddsoddiad un-ar-ddeg gwaith yn fwy na’r buddsoddiad mewn Teithio Llesol yn y bum mlynedd ddiwethaf.
“Rydyn ni am ei gwneud yn haws i bobl deithio bob dydd mewn ffyrdd sy’n helpu’r amgylchedd” meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
Mae cyllideb 2021-22 wedi dyrannu dros £55m i deithio llesol, cynnydd o £20m o gymharu â’r llynedd – i fyny o £5mliwn yn 2016 ar ddechrau tymor Llywodraeth Cymru.
Mae’r cynnydd mawr mewn buddsoddiad yn rhan o ymgyrch fawr i gefnogi trafnidiaeth gynaliadwy fel rhan o weithredu Llywodraeth Cymru ar y newid yn yr hinsawdd.
Daw y buddsoddiad newydd ochr yn ochr â chyhoeddi canllaw newydd i wella dyluniad y seilwaith newydd.
Meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth:
“Nid peth hawdd yw newid arferion teithio ond mae’n rhaid inni wneud ymdrech fawr os ydym i fynd i’r afael â’n hargyfwng iechyd a’n hargyfwng hinsawdd. Rydym am i awdurdodau lleol fod yn uchelgeisiol yn eu cynlluniau, ac i gyrraedd pobl na fyddai ar hyn o bryd yn ystyried newid taith leol mewn car am daith ar feic neu daith ar droed ac i gynllunio llwybrau diogel a fyddai’n eu hannog i roi cynnig ar hyn.”
Mae’r cyllid newydd yn rhan o becyn diwygio sy’n cynnwys ymarfer ymgynghori lleol mawr ym mhob ardal awdurdod lleol i greu rhwydwaith o gynlluniau i’w gwneud yn fwy deniadol i gerdded a beicio.
Mae cynghorau wedi eu gwahodd i wneud cais am gynlluniau allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r nifer sy’n cerdded neu’n beicio yn eu hardaloedd. Gallant ddefnyddio’r arian ar gyfer cynlluniau bychain megis uwchraddio llwybrau cul sy’n rhy brysur, neu symud rhwystrau sy’n atal cadeiriau olwyn neu drelars beic, yn ogystal ag ar gyfer cynlluniau mwy a mwy cymhleth.
Caiff cynghorau eu hannog i gydweithio i gysylltu lleoliadau mewn ffordd well allai fod mewn ardaloedd cynghorau gwahanol, ond ble y mae nifer o bobl yn teithio rhyngddynt.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dwy gyfres o ganllawiau sydd wedi’u cynllunio i wella amodau teithio llesol ymhellach. Nod y gyfres gyntaf o ganllawiau yw sicrhau, pan fydd gwaith stryd yn cael ei gyflawni bod cynllunio ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Mae wedi’i ddrafftio ar y cyd â Sustrans a Phwyllgor Awdurdodau a Chyfleustodau Priffyrdd Cymru.
Mae’r ail ganllaw yn canolbwyntio ar wella teithio llesol ar gefnffyrdd, y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am eu rheoli. Mae’r canllawiau wedi eu hanelu at sicrhau, pryd bynnag y caiff gwelliannau eu gwneud i gefnffyrdd yng Nghymru, bod yn rhaid ystyried yn llawn sut y gellid gwella amodau ar gyfer cerdded a beicio fel rhan o’r prosiect, o fewn a thu allan i ffiniau’r cefnffyrdd.