English icon English

Cyflwyno profion COVID-19 pellach i gartrefi gofal

Enhanced Covid-19 testing introduced for care homes

Bydd profion COVID-19 pellach yn cael eu cyflwyno i staff cartrefi gofal yr wythnos hon i helpu i adnabod unigolion heintus yn gynharach a rheoli achosion yn fwy effeithiol, dyna gyhoeddiad y Gweinidog Iechyd.

Bydd y rhaglen brofi estynedig yn cynnwys profi staff cartrefi gofal asymptomatig ddwywaith yr wythnos gan ddefnyddio dyfeisiau profion llif unffordd cyflym.

Mae hyn yn ychwanegol at brofion PCR, sy’n cael eu hanfon i labordy ac sy’n cael eu cymryd gan staff cartrefi gofal fel rhan o becyn o fesurau ar gyfer atal trosglwyddiad COVID-19 mewn cartrefi gofal a diogelu preswylwyr a staff, ers mis Mehefin 2020.

Cytunwyd ar becyn cyllid o £3 miliwn i gefnogi’r profion ychwanegol mewn cartrefi gofal.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

“Mae diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wedi bod yn flaenoriaeth yn ystod y pandemig COVID-19.

“Mae staff cartrefi gofal, awdurdodau lleol a thimau diogelu iechyd yn dal i weithio’n ddiflino i atal COVID-19 rhag cyrraedd ein cartrefi gofal a throsglwyddo oddi mewn iddynt. 

“Er ein bod yn gwneud cynnydd da o ran cyflwyno ein rhaglen frechu, mae profi yn parhau i fod yn ganolog i’n hymateb i’r pandemig i’n helpu i adnabod unigolion heintus mewn cartrefi gofal yn gynt a rheoli achosion yn fwy effeithiol.”

Bydd timau diogelu iechyd lleol hefyd yn gallu ystyried cyflwyno profion dyddiol am gyfnod o 10 diwrnod mewn cartrefi gofal lle mae achosion. Mae’r cynllun profi estynedig hwn yn unol â’r flaenoriaeth ‘profi i ddiogelu’ a ddisgrifiwyd yn Strategaeth Brofi ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.

Mae profion llif unffordd yn rhoi canlyniadau o fewn 20 i 30 munud gan ein galluogi i adnabod unigolion positif, a’u hynysu’n llawer cyflymach na thrwy’r broses brofi bresennol.

Nodiadau i olygyddion

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth brofi ddiwygiedig yr wythnos diwethaf. https://llyw.cymru/strategaeth-profi-covid-19