Newyddion
Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 260 o 320
Agor Cronfa’r Economi Gylchol gwerth £3.5m i gyrff cyhoeddus er mwyn gefnogi adferiad gwyrdd
Mae cylch newydd gwerth £3.5m o Gronfa’r Economi Gylchol er mwyn cefnogi cyrff cyhoeddus i ymateb ar ôl COVID a chefnogi adferiad gwyrdd yng Nghymru yn agor heddiw.
Ceisio barn am gronfa newydd i roi cymorth ychwanegol i bobl anabl sefyll etholiad
Heddiw [11 Tachwedd] mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar sefydlu cronfa newydd i roi cymorth ychwanegol i bobl anabl ymgeisio am swydd etholedig yn etholiadau'r Senedd yn 2021 ac etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022.
£10 miliwn yn ychwanegol ar gael ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru
“Mae’n rhaid i’r Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru oroesi’r pandemig hwn” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Cyhoeddi cymhellion mawr newydd ar gyfer cyflogwyr i’w helpu i recriwtio prentisiaid
Mae Gweinidog yr Economi Ken Skates wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru yn gallu hawlio hyd at £3,000 am bob prentis newydd y maent yn ei recriwtio sydd dan 25 oed.
‘Byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd’ – Jeremy Miles, Paratoi Cymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio
Gyda 50 diwrnod ar ôl tan ddiwedd y cyfnod pontio, heddiw gwnaeth Jeremy Miles atgoffa’r cyhoedd y bydd newid sylweddol iawn y flwyddyn nesaf, ni waeth a fydd cytundeb ai peidio. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i geisio cyfyngu ar y niwed y bydd y newid hwn yn ei achosi i fywoliaethau yng Nghymru.
Partneriaid yn y Gogledd yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi’r rhanbarth
Heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru fod Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid ar draws Gogledd Cymru yn parhau i weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r rhanbarth wrth iddo fynd i’r afael ag effaith dybryd y pandemig a chynllunio at y dyfodol.
Dull Cymru o ymdrin â chymwysterau yn 2021 yn cael ei gadarnhau gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams
Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cadarnhau heddiw (dydd Mawrth, 10 Tachwedd) sut y bydd Cymru yn mynd ati i roi cymwysterau yn 2021, ac na fydd arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer dysgwyr TGAU, UG na Safon Uwch.
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar yr ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur
Gan gynnig sylwadau ar Ystadegau y Farchnad Lafur heddiw, dywedodd Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
Cwmni yn Rhydaman yn ehangu’i waith gweithgynhyrchu yn sgil cymorth gan Lywodraeth Cymru
Mae cwmni LSN Diffusion, sydd wedi’i leoli yn Rhydaman ac sy’n gweithgynhyrchu powdrau arbenigol i’w defnyddio yn y sector peirianneg, yn ehangu ei waith ac yn creu swyddi newydd yn sgil cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru.
Contract wedi’i ddyfarnu ar gyfer gwelliannau i’r A465
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod contract i wneud gwelliannau i Adrannau 5 a 6 o’r A465 wedi cael ei ddyfarnu i gonsortiwm ‘Future Valleys’, yn dilyn eu penodi fel y Cynigydd a Ffefrir ym mis Mehefin.
Cyhoeddi Bwrdd Anweithredol Cyntaf Cymru Greadigol
Mae’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas wedi cyhoeddi enwau Cadeirydd ac Aelodau Bwrdd Anweithredol cyntaf Cymru Greadigol.