English icon English

Newyddion

Canfuwyd 3059 eitem, yn dangos tudalen 255 o 255

Welsh Government

Cyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a dyfodol ein planed

Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi Cyllideb ddrafft sy’n cynnwys cynlluniau i fuddsoddi mwy nag £8bn yn y GIG yng Nghymru, ynghyd â phrosiectau uchelgeisiol i helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

39620 PISA-Graphs Maths Welsh2-2

"Cadarnhaol, ond nid perffaith" meddai Kirsty Williams wrth i'r Gweinidog groesawu gwelliant yng nghanlyniadau PISA Cymru

  • Cymru'n dal i fyny gyda'r cyfartaledd rhyngwladol ym mhob pwnc am y tro cyntaf.  
  • Sgoriau uwch i Gymru ym mhob un o'r tri phwnc ac felly mae’n symud i fyny am y tro cyntaf.
  • Sgoriau gorau erioed mewn Darllen a Mathemateg, a gwelliant mewn Gwyddoniaeth
JM WEFO 2

50,000 o swyddi newydd wedi'u creu yng Nghymru, diolch i'r UE

Mae Jeremy Miles yn dathlu llwyddiant bron i ddegawd o gyllid yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, yn ogystal ag edrych ymlaen at fuddsoddiad rhanbarthol posibl i'r dyfodol, gan fod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 50,000 o swyddi wedi'u creu yng Nghymru ers i'r rhaglen ddechrau.

AberInnovation Jeremy Miles

£1.3 o arian yr UE i wella sgiliau busnesau amaeth a bwyd yng Nghymru

Mae'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi heddiw (15 Tachwedd) fod yr UE wedi neilltuo £1.3m i helpu i feithrin sgiliau technegol ac uwch busnesau amaeth a bwyd.

EU citizens hearts WEL

‘Mae Cymru’n cefnogi dinasyddion yr UE sydd am aros yma ar ôl Brexit’ yw neges Jeremy Miles

Mae Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, wedi cymell pobl ym mhob cwr o Gymru i helpu i rannu’r neges a sicrhau bod y degau o filoedd o ddinasyddion yr UE sy’n byw yma yn ymwybodol o’u hawliau ar ôl Brexit.

ageing image-2

Yr UE yn ariannu syniadau newydd i helpu Cymru i heneiddio'n greadigol

Heddiw (8 Tachwedd), cyhoeddodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, £2.5m o gyllid gan yr UE i greu canolfan ymchwil newydd ym Mhrifysgol Abertawe. Ei nod fydd ehangu'r farchnad fyd-eang ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag oedran.

AberInnovation Jeremy Miles

Buddsoddiad gwerth £2.6m gan yr UE yn denu swyddi a busnesau i Gymoedd y Rhondda

Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru, wedi cyhoeddi heddiw gyllid gwerth £2.58 miliwn gan yr UE ar gyfer datblygu safleoedd busnes newydd ger Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf.