English icon English
woman on laptop

Rhagor o gymorth i weithwyr gofal cymdeithasol gyda’u llesiant yn ystod y pandemig

Greater well-being support pledged for social care workers during the pandemic

Bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol yng Nghymru yn cael mwy o gymorth i ddiogelu eu llesiant yn ystod y pandemig.

Nod y cymorth emosiynol hwn, sy’n cynnwys gwasanaeth cwnsela un i un gyda’r un cwnselydd, yw cynnig mynediad hawdd at gymorth llesiant i weithwyr gofal y mae eu profiadau o weithio yn ystod y pandemig wedi effeithio arnynt.

Drwy gydol y pandemig, mae gweithwyr gofal cymdeithasol wedi parhau i ddarparu gofal a chymorth hanfodol i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed.

Mae rhai wedi wynebu llawer mwy o straen, wedi gorfod gweithio oriau hirach ac wedi gweld nifer uwch nag arfer o farwolaethau ymhlith eu cydweithwyr.

Mae’r cynllun yn cydnabod yr effaith bersonol y mae hyn wedi’i chael ar lawer o weithwyr a bydd yn cynnig cymorth mwy cyson ar draws y sector.

Bydd yn adeiladu ar wasanaeth cymorth llesiant sydd eisoes ar gael drwy wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Y tudalennau COVID-19 a llesiant yw’r rhai y mae’r nifer mwyaf o bobl wedi ymweld â nhw ers dechrau’r pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynllun, sy’n cael ei gaffael a’i reoli drwy’r sefydliad Gofal Cymdeithasol Cymru, gyda chyllid o hyd at £200,000. Bydd y cynllun ar gael i tua 55,000 o weithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

“Rydyn ni’n deall bod gweithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi bod ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws wedi bod o dan bwysau eithriadol, a bod hynny wedi cael effaith niweidiol ar eu hiechyd meddwl a’u llesiant.

“Bydd y cymorth hwn yn helpu i sicrhau darpariaeth gyson o ran cymorth emosiynol tymor byr a thymor hwy ar draws y sector.

“Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn gallu defnyddio gwasanaeth Silvercloud, adnodd gan ddarparwr gofal iechyd meddwl annibynnol, sy’n cynnig pedair rhaglen ar-lein i helpu pobl gyda chwsg, straen a chadernid personol, am ddim yn barod. Felly mae’r rhaglen hon yn adnodd ychwanegol.

“Byddem yn annog gweithwyr gofal cymdeithasol a allai elwa ar y cymorth proffesiynol hwn i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae’n bwysig eu bod yn gwybod bod rhywun yno i ofalu amdanyn nhw pan fo angen gofal arnyn nhw.”

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a’n gwasanaeth iechyd. Maen nhw wedi chwarae rhan ganolog yn ein hymateb i bandemig y coronafeirws, ond ni ellir gorbwysleisio’r effaith y mae eu gwaith wedi ei chael ar eu hiechyd meddwl eu hunain ar adeg pan fo cymaint o bwysau arnynt.

“Bydd cymorth ychwanegol fel hwn, a fydd yn cael ei ddarparu gan y sefydliad Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cynnig cymorth a chyngor amserol, hawdd i gael gafael arno, i’n gweithwyr gofal cymdeithasol ymroddedig. Os ydych chi’n weithiwr gofal ac yn cael trafferth ymdopi, rydyn ni’n gallu gweld y gwaith anhygoel rydych chi’n ei wneud ac yn gofyn ichi fanteisio ar y cymorth sydd yno i chi hefyd.”    

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:

“Bob dydd, rydyn ni’n gweld miloedd o weithwyr gofal cymdeithasol yn cynnig gwasanaethau rhagorol i’r rhai sydd angen gofal a chymorth, a hynny yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol sy’n peri gymaint o straen, yn sgil y pandemig ofnadwy hwn.

“Yn sgil hynny, mae mor bwysig ein bod yn cefnogi eu hiechyd a’u llesiant gymaint â phosibl. Mae hyn yn hanfodol nid yn unig i’r gweithwyr eu hunain, ond i’r rhai maen nhw’n eu cefnogi hefyd.

“Bydd y rhaglen cymorth i weithwyr newydd hwn yn rhoi hwb mawr i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gan roi sicrwydd iddynt y gallan nhw gael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau a all eu helpu nhw a’u teuluoedd drwy’r cyfnod eithriadol o anodd hwn. Bydd hefyd yn golygu y bydd trefniadau cyson i’w cael ledled Cymru ar gyfer y rhai sy’n gweithio i ddarparwyr gwasanaethau preifat a gwirfoddol."