English icon English

Y Senedd yn pasio bil i chwyldroi democratiaeth a llywodraeth leol

Bill to revolutionise local government and democracy passed in the Senedd.

Mae'r Senedd wedi pasio bil i ddiwygio etholiadau, democratiaeth, perfformiad a llywodraethu ym maes llywodraeth leol.

Union flwyddyn ers ei gyflwyno, bydd Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cynyddu cyfleoedd i'r cyhoedd gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ac yn helpu i wella tryloywder. Bydd y Bil yn gostwng yr oedran pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol i 16 a 17 mlwydd oed ac yn rhoi'r bleidlais i ddinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, gan roi llais iddynt yn y ffordd y mae eu cymunedau yn cael eu rhedeg. Mae hyn yn adlewyrchu hawliau pobl 16 a 17 mlwydd oed a dinasyddion tramor cymwys i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.

Bydd y Bil hefyd yn cefnogi mwy o amrywiaeth ymysg aelodau etholedig mewn prif gynghorau drwy ganiatáu rhannu swyddi, darparu mwy o hyblygrwydd o ran gweithio o bell a diweddaru darpariaethau absenoldeb teuluol.

Wrth siarad ar ôl i'r Bil gael ei basio, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

“Bydd y Bil hwn yn sicrhau democratiaeth leol sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein gwlad, yn darparu ffyrdd newydd i lywodraeth leol gefnogi a gwasanaethu eu cymunedau ac yn adfywio democratiaeth leol yng Nghymru.”

Mae'r Bil yn cynnig cyfle i wella hygyrchedd a chyfranogiad mewn llywodraeth leol drwy ei gwneud yn haws cofrestru i bleidleisio a rhoi'r bleidlais i fwy o bobl. Bydd yn galluogi mwy o bobl o wahanol gefndiroedd amrywiol i sefyll mewn etholiad fel y gall cynghorau adlewyrchu'n llawn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae gwella hygyrchedd wedi bod yn rhan amlwg o’r Bil, gan ei gwneud yn haws i bobl nid yn unig gael eu cynnwys ar y gofrestr etholwyr ond hefyd ei gwneud yn haws i bobl sefyll mewn etholiad.

Bydd hi nawr yn ofynnol i gynghorau ymgynghori ar strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, a'i chyhoeddi. Nod hyn fydd ei gwneud yn haws i bobl leol ddeall sut mae llywodraeth leol yn gweithio; sut mae'n gwneud penderfyniadau; a sut gall pobl leol ddilyn trafodion, cynnig sylwadau a sicrhau eu bod yn cael eu hystyried. I helpu i gynyddu cyfranogiad, mae'r Bil yn ceisio annog defnydd mwy effeithiol o ddeisebau o fewn llywodraeth leol, gan gyflwyno cynlluniau deisebau sydd eisoes ar waith mewn cyrff cyhoeddus eraill gan gynnwys y Senedd.

Cred Llywodraeth Cymru y dylai pobl allu gwylio cyfarfodydd cyngor unrhyw bryd. Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau ddarlledu cyfarfodydd eu cyngor llawn sy'n agored i'r cyhoedd yn electronig, wrth iddynt ddigwydd, a sicrhau bod y darllediad ar gael yn electronig am gyfnod rhesymol ar ôl y cyfarfod. Bydd hefyd yn galluogi mwy o gyfarfodydd i gael eu darlledu yn y ffordd hon yn y dyfodol.

Bydd gan bobl sy'n mynychu cyfarfodydd cyngor cymuned fwy o gyfle nawr i wneud sylwadau yn ystod cyfarfodydd ynglŷn ag unrhyw fusnes. Ar gyfer cynghorau cymuned a thref, bydd y Bil hefyd yn caniatáu mynychu cyfarfodydd o bell er mwyn ei gwneud yn haws i'r rhai â chyfrifoldebau gofalu a'r rhai mewn cyflogaeth i sefyll mewn etholiad ar y lefel bwysig hon o lywodraeth leol.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Mae'r ffyrdd yr ydym yn byw ac yn gweithio yng Nghymru yn newid yn gyson, ac mae'n sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn gweithio'n galed i newid yr un mor gyflym. Credaf fod gennym nawr Fil a fydd yn darparu diwygiadau effeithiol sydd wedi'u cynllunio gyda llywodraeth leol. Bydd unrhyw beth y gallwn ei wneud i wella hygyrchedd a chyfranogiad y cyhoedd mewn llywodraeth leol yn werthfawr iawn i ddemocratiaeth Cymru.

“Mae'r Bil yn sicrhau y gall awdurdodau lleol arwain y gwaith o lunio’r trefniadau sy'n sicrhau y gall rhanbarthau Cymru ysgwyddo cyfrifoldeb dros eu buddiant cyffredin mewn cynllunio trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir a datblygu economaidd. Dyma'r cam datganoli nesaf a thrwyddo, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhanbarthau Cymru wrth iddynt arfer rheolaeth dros y materion sydd o bwys iddynt.”

“Bydd rhai darpariaethau yn y Bil, yn enwedig cyflwyno'r pŵer cymhwysedd cyffredinol a chyd-bwyllgorau corfforedig, yn galluogi cynghorau i adeiladu ar yr arloesi a'r cydweithio sydd wedi bod yn ganolog i'r ymateb i'r pandemig.”

DIWEDD