English icon English
pexels-cdc-3992933-2

Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fydd yr ardal gyfan gyntaf i gael profion torfol yng Nghymru

Merthyr Tydfil County Borough to be first whole area testing pilot in Wales

Bydd pawb sy'n byw neu'n gweithio ym Merthyr Tudful yn cael cynnig profion COVID-19, ni waeth a oes ganddynt symptomau ai peidio – yn y cynllun profi torfol cyntaf ar gyfer ardal gyfan yng Nghymru.

Bydd pawb sy'n byw neu'n gweithio ym Merthyr Tudful yn cael cynnig profion COVID-19, ni waeth a oes ganddynt symptomau ai peidio – yn y cynllun profi torfol cyntaf ar gyfer ardal gyfan yng Nghymru.

Bydd yr holl breswylwyr a gweithwyr yn cael cynnig profion COVID-19 rheolaidd o ddydd Sadwrn (21 Tachwedd) ymlaen. Bydd hyn yn helpu i ddod o hyd i fwy o achosion positif a thorri cadwyni trosglwyddo.

Bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chymorth logistaidd gan bersonél y Lluoedd Arfog.

Dylai unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119 i fynd i safle profi sy’n bodoli’n barod i gael prawf PCR swabio eich hun. Dylai’r rhai sydd heb symptomau fynd i’r safleoedd profi torfol newydd ym Merthyr.

Bydd y safle cyntaf yn agor yng nghanolfan hamdden Merthyr Tudful ddydd Sadwrn 21 Tachwedd a bydd rhagor o safleoedd yn agor ar draws y fwrdeistref sirol yn nes ymlaen y mis hwn. Bydd miloedd o brofion llif unffordd ar gael i breswylwyr a gweithwyr Merthyr a gall pobl gael gwybod sut i gael y profion hyn drwy fynd i www.merthyr.gov.uk/covidtesting

Bydd y cynllun profi torfol hefyd yn defnyddio Dyfeisiau Llif Unffordd am y tro cyntaf yng Nghymru. Bydd pawb sy'n mynd i unrhyw un o'r safleoedd profi asymptomatig ym Merthyr Tudful yn cael prawf sy'n defnyddio'r dyfeisiau hyn. Gall y rhain ddychwelyd canlyniad prawf o fewn tua 20-30 munud.

Os bydd rhywun yn cael canlyniad positif drwy brawf llif unffordd, gofynnir iddo ddychwelyd adref a hunanynysu ar unwaith.

Gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r cynllun profi torfol cyntaf yn Lerpwl, bydd y cynllun profi ar gyfer tref gyfan Merthyr yn darparu gwybodaeth hanfodol a fydd o gymorth wrth gyflwyno technoleg profi torfol yn ehangach yn y dyfodol.

Byddwn yn monitro nifer y canlyniadau positif yn agos i’n helpu i ddeall lledaeniad y feirws yn well. Bydd hyn wedyn o gymorth i weithredu i atal trosglwyddiad pellach.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Dyma'r tro cyntaf inni gynnal profion torfol ar gyfer pobl symptomatig ac asymptomatig yng Nghymru. Bydd yn rhoi dealltwriaeth well fyth inni o nifer yr achosion yn y gymuned a faint o bobl sydd â COVID-19.

“Rydym wedi dewis Merthyr gan fod nifer yr achosion yn uchel yno a bydd y profion torfol hyn yn helpu i arafu lledaeniad y feirws yn yr ardal.

“Bydd cyflwyno'r profion cyflym drwy Ddyfeisiau Llif Unffordd yn hwb i'n strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu gan gyflymu'r broses yn sylweddol. Dyma dechnoleg hanfodol ac rwy'n gobeithio y bydd yn chwarae rôl bwysig yn ein hymdrech yn erbyn y feirws marwol hwn.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Cynghorydd Kevin O’Neill:

“Mae’r nifer uchel o achosion ym Merthyr Tudful yn peri pryder mawr inni i gyd ac mae angen gweithredu er mwyn ymateb fel cymuned i ddiogelu ein preswylwyr.

“Mae’n bwysig cael prawf hyd yn oed os nad oes gennych symptomau. Mae cynllun profi COVID-19 wedi cael ei gynnal yn Lerpwl, a’r wythnos hon canfuwyd bod gan 700 o bobl y feirws, a hynny’n ddiarwybod iddynt – ni fyddai’r achosion hyn wedi’u canfod fel arall.

“Bydd y Cyngor yn cefnogi’r cynllun arwyddocaol hwn yn llwyr yn yr wythnosau nesaf ac yn annog cynifer o’n preswylwyr â phosibl i chwarae eu rhan i geisio dod â’r feirws hwn o dan ryw fath o reolaeth.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock:

“Drwy brofi mwy o bobl, gan gynnwys y rhai heb symptomau, gallwn ddod o hyd i fwy o achosion positif o’r feirws a thorri cadwyni trosglwyddo. Ar sail yr hyn a ddysgwyd o’r cynllun profi torfol cyntaf ar gyfer dinas gyfan yn Lerpwl a gan ddefnyddio’r profion cyflym diweddaraf, bydd y cynllun hwn ym Merthyr yn darparu dealltwriaeth hanfodol inni o sut i gyflwyno profion torfol yn ehangach, yn ogystal ag atal y feirws a rhoi tawelwch meddwl i breswylwyr Merthyr.

“Hoffwn ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Llywodraeth Cymru a’r lluoedd arfog am eu gwaith i wneud y cynllun hwn yn bosibl a darparu prawf i bawb sydd angen un.

“Rwy’n annog pawb ym Merthyr i chwarae eu rhan i reoli’r feirws hwn drwy gael prawf a dilyn y cyfyngiadau sydd mewn grym.”

Dywedodd Cadeirydd Gweithredol Interim y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Diogelu Iechyd, y Farwnes Dido Harding:

“Mae ein cynllun profi nesaf ar gyfer tref gyfan, ym Merthyr, yn gam cyffrous ymlaen tuag at gyflwyno profi torfol ledled y DU. Bydd profion llif unffordd yn darparu canlyniadau cyflym, a thrwy brofi’r rhai sydd heb symptomau byddwn yn canfod mwy o achosion positif o’r feirws.

“Bydd Profi ac Olrhain y GIG yn parhau i gefnogi a gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac arweinwyr lleol i lansio a gwerthuso’r cynllun profi torfol. Drwy ddod ymlaen, cael prawf ac ynysu os bydd angen, bydd preswylwyr Merthyr yn chwarae rhan enfawr yn yr ymdrech i atal lledaeniad y feirws.”