English icon English
Business Wales support-2

Cymorth ariannol hanfodol i bobl ddi-waith sy'n wynebu rhwystrau cudd i ddechrau eu busnes eu hunain

Vital funding support for unemployed people who face hidden barriers to start their own business

Bydd menter newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at helpu pobl ddi-waith sy’n awyddus i ddechrau eu busnes eu hunain i oresgyn rhwystrau cudd yn agor yr wythnos hon.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid fel Chwarae Teg, Mubo, Cyllid Cymunedol Assadaquaat, y Ganolfan Byd Gwaith a'r Rhwydwaith Hi fel rhan o'i hymrwymiad i gefnogi pobl gydol pandemig y coronafeirws a thu hwnt, fel y gall pobl anabl, y rhai o gefndiroedd BAME, menywod a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant gael cymorth wedi'i dargedu i'w helpu i ddechrau eu busnes eu hunain.

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Ken Skates agor y Gronfa Rhwystrau i Ddechrau Busnes gwerth £1.2m, sy'n rhan allweddol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi unigolion y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio’n andwyol arnynt. Er bod y rhaglen ar gael i bob person di-waith sy'n awyddus i ddechrau eu busnes eu hunain, eglurodd fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu mwy na hanner y cymorth i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg a hyfforddiant, pobl anabl, y rhai o gefndiroedd BAME a darpar entrepreneuriaid benywaidd gan mai dyma’r grwpiau y mae disgwyl i’r pandemig effeithio arnynt fwyaf.

Mae pandemig y coronafeirws yn golygu bod pobl ddi-waith yn wynebu hyd yn oed mwy o rwystrau i ddechrau busnes neu ymuno â’r farchnad lafur nag y byddent fel arfer a bydd y rhaglen gymorth hon yn eu helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau hynny ac ystyried cyfleoedd na fyddent efallai wedi'u hystyried o'r blaen. 

Bydd y rhaglen yn targedu’n benodol bobl ifanc a adawodd y coleg a'r brifysgol yn 2019 neu 2020 sydd o dan anfantais benodol yn y farchnad lafur, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i adnabod a chefnogi'r rhai di-waith sydd â diddordeb gwirioneddol mewn dechrau eu busnes eu hunain.

Bydd yn ofynnol i bobl sydd â diddordeb mewn manteisio ar y cymorth hwn gofrestru gyda Busnes Cymru cyn i'r broses ymgeisio agor ym mis Rhagfyr fel y gallant weithio gyda chynghorydd i ddatblygu cynllun busnes.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates: "Gall dechrau busnes fod yn brofiad heriol ar unrhyw adeg, ond rydym yn cydnabod y gallai’r hinsawdd economaidd bresennol yn sgil pandemig y coronafeirws olygu bod y cam hwn yn fwy brawychus nag erioed.”

"Dyna pam rydym yn cymryd camau pwysig i gefnogi ein pobl, gan greu cyfleoedd hunangyflogaeth newydd a hybu ein heconomi. Bydd ein Cronfa Rhwystrau yn gweithio ochr yn ochr â'n rhaglenni cymorth busnes i helpu unigolion sy'n ystyried hunangyflogaeth i sicrhau mai dyma'r penderfyniad cywir iddynt, a bydd yn eu helpu i feithrin eu dealltwriaeth a'u hyder busnes a datblygu cynllun busnes cadarn fel bod ganddynt y cyfle gorau posibl i sicrhau bod eu mentrau newydd yn llwyddo."

Dywedodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg: "Mae Chwarae Teg yn falch iawn o fod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru ar y prosiect hwn. 

"Gwyddom fod llawer o rwystrau cudd a all atal menywod rhag sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny ac i rymuso menywod i fireinio eu sgiliau entrepreneuraidd fel y gallant gyflawni hyd eithaf eu gallu."

Ychwanegodd Akmal Hanuk, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Cyllid Cymunedol Assadaqaat: "Mae'n bleser gan ACF gydweithio â Llywodraeth Cymru i annog entrepreneuriaeth o fewn cymunedau BAME, gan ganolbwyntio ar fenywod a phobl ifanc yng Nghymru."

Mae cymorth hefyd ar gael gan Syniadau Mawr Cymru, Canolfannau Menter Llywodraeth Cymru neu Fusnes Cymdeithasol Cymru. 

Bydd Cronfa Rhwystrau Busnes Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 1 Rhagfyr, 2020 a Mawrth 19, 2021, neu pryd bynnag y bydd y gronfa wedi'i hymrwymo'n llawn. Bydd y gronfa ddewisol hon yn cynnig hyd at £2,000 i gefnogi costau busnes hanfodol ymgeiswyr llwyddiannus.

I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa a'r meini prawf cymhwystra llawn, ewch i: https://businesswales.gov.wales/cy/grant-rhwystrau-busnes-cymru

Os oes gennych gwestiynau a'ch bod yn awyddus i siarad ag aelod o dîm Busnes Cymru, ffoniwch 03000 6 03000.